Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwaith Cymdeithasol - Cymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol

Mae'r Cyngor yn gweithredu cynllun secondiad llwyddiannus sy'n cefnogi staff dethol i ennill Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol trwy astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru (y Radd mewn Gwaith Cymdeithasol yw cymhwyster y DU ar gyfer Gwaith Cymdeithasol).

Disgwylir i staff sy'n dymuno cael eu hystyried gael profiad o ofal cymdeithasol a meddu ar NVQ perthnasol ar lefel 3. Fel arfer, disgwylir iddynt gael y dystysgrif Prifysgol Agored 'An introduction to health and social care' (K101), neu'r cwrs a wnaeth ei ragflaenu sef (K100), neu gymhwyster tebyg a thystysgrif addysg uwch perthnasol. (Cynigir NB K101 i staff a ddetholir trwy'r rhaglen hyfforddiant Gofal Cymdeithasol)

Y Radd yw BA (Anrhydedd) a gellir ei hastudio dros dair i bum mlynedd. Mae CS Powys yn talu ffioedd, costau teithio ac ati ac yn cynnig ychydig o amser astudio. Fodd bynnag, mae angen i fyfyrwyr ymrwymo llawer iawn o'u hamser eu hunain i astudio ar ben hyn.

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau