Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Deddf Adeiladau 1984 Adran 80

Rhaid i unrhyw un sy'n bwriadu dymchwel adeilad roi gwybod i ni trwy lythyr. 

Mae'n anghyfreithlon dechrau gwaith dymchwel oni bai fod y Cyngor wedi cael gwybod. Rhaid i'r hysbysiad ddweud wrthym pa adeilad sy'n cael ei ddymchwel a manylion y dymchwel, ond does dim rhaid i chi lenwi ffurflen arbennig i wneud hyn. Gallech gynnwys disgrifiad o'r dymchwel arfaethedig ar ffurflen rheoliadau adeiladau neu hysbysiad adeiladau sy'n gysylltiedig â'r gwaith.

Bydd methu â rhoi gwybod i ni yn ein hatal rhag cyflwyno Hysbysiad Dymchwel. Rhaid i'r sawl sy'n rhoi gwybod i'r cyngor anfon yr hysbysiad at:

a. Meddianwyr unrhyw adeilad sy'n gyfagos i'r adeilad fydd yn cael ei ddymchwel b. Unrhyw gyflenwr nwy cyhoeddus y mae'r dymchwel yn digwydd o fewn ei ardal
c. Y cyflenwr trydan cyhoeddus y mae'r dymchwel yn digwydd o fewn ei ardal
d. Unrhyw un arall sydd wedi'i awdurdodi â thrwydded i gyflenwi trydan.

Gall y gwaith dymchwel ddigwydd yn gyfreithlon wedi i'r awdurdod gyflwyno Hysbysiad Dymchwel dan Adran 81, neu os nad yw'r awdurdod wedi cyflwyno Hysbysiad Dymchwel, cyn pen chwech wythnos o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad o fwriad.

Mae'n drosedd dechrau dymchwel adeilad heb ein hysbysu ni. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ein hatal ni rhag cyflwyno Hysbysiad Dymchwel ac yna dechrau ar gamau cyfreithiol i adfer y gost.