Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cofrestru enw eiddo / stryd newydd

Dylid enwi strydoedd a lle bo hynny'n ymarferol, dylid rhifo eiddo cyn i breswylwyr symud i mewn i'r tai.

Os ydych chi am enwi stryd breifat cysylltwch â ni i drafod eich cynigion.
Image of a street nameplate

Y prif gamau wrth enwi a rhifo tai newydd, a datblygiadau masnachol a diwydiannol yw:

  • Cyswllt cynnar gyda darpar ddatblygwyr i gytuno ar enwau
  • Cyswllt rhwng Aelodau'r Cyngor, Y Swyddfa Bost a chyrff statudol eraill
  • Rhaid enwi a rhifo ffyrdd ac eiddo newydd, yn unol â chanllawiau a gweithdrefnau cymeradwy, cyn i breswylwyr symud i mewn i'r tai.

Dylai'r datblygwr:

  • Ddarparu awgrymiadau ar gyfer enwau stryd cyn dechrau gweithio ar y safle.  Rhowch ddewis yn y drefn sydd orau gennych neu
  • Ddirprwyo cyfrifoldeb i'r Cyngor Cymuned lleol.

Dylai'r Cyngor:

  • Gynnal ymgynghoriadau gyda'r Gwasanaeth Cyfieithu, yr aelod lleol, y Cyngor cymuned a'r Gwasanaeth Rheoli Cyfeiriadau gan roi ateb i chi o fewn 28 diwrnod.

Canllawiau ar gyfer dewis enwau strydoedd

Dylai'r enw stryd arfaethedig fod yn:

  • Ddwyieithog oni bai y caiff enw Cymraeg ei gynnig
  • Hawdd i'w gyfieithu i'r Gymraeg
  • Deillio o gysylltiadau lleol, hanesyddol neu ddaearyddol yr ardal lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

Yn ogystal â hyn, dylai enwau stryd gychwyn gyda'r rhagddodiaid canlynol:

  • I ffyrdd preswyl - ffordd/heol, stryd.
  • Ar gyfer ffyrdd pengaead a datblygiadau bychain - cilgaint, clos, sgwâr, cwrt/llys neu ystablau.

Ffurflenni Cais

Ffioedd

Taliadau am wasanaethau Enwi a Rhifo Strydoedd 2024 (PDF) [198KB]

 

Gweld y canllawiau llawn ar gyfer Enwi Strydoedd a Rhifo Tai (PDF) [588KB]

Cyswllt

  • Ebost: buildingcontrol@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01874 612290
  • Cyfeiriad:
    • Aberhonddu Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR
    • Llandrindod - Cyngor y Sir, Llandrindod LD1 5LG
    • Y Trallwng - Ty Maldwyn, Stryd Brook, Y Trallwng SY21 7PH
  • Facebook
  • Twitter

Eich sylwadau am ein tudalennau