Cofrestru enw eiddo / stryd newydd
Dylid enwi strydoedd a lle bo hynny'n ymarferol, dylid rhifo eiddo cyn i breswylwyr symud i mewn i'r tai.
Os ydych chi am enwi stryd breifat cysylltwch â ni i drafod eich cynigion.
Y prif gamau wrth enwi a rhifo tai newydd, a datblygiadau masnachol a diwydiannol yw:
- Cyswllt cynnar gyda darpar ddatblygwyr i gytuno ar enwau
- Cyswllt rhwng Aelodau'r Cyngor, Y Swyddfa Bost a chyrff statudol eraill
- Rhaid enwi a rhifo ffyrdd ac eiddo newydd, yn unol â chanllawiau a gweithdrefnau cymeradwy, cyn i breswylwyr symud i mewn i'r tai.
Dylai'r datblygwr:
- Ddarparu awgrymiadau ar gyfer enwau stryd cyn dechrau gweithio ar y safle. Rhowch ddewis yn y drefn sydd orau gennych neu
- Ddirprwyo cyfrifoldeb i'r Cyngor Cymuned lleol.
Dylai'r Cyngor:
- Gynnal ymgynghoriadau gyda'r Gwasanaeth Cyfieithu, yr aelod lleol, y Cyngor cymuned a'r Gwasanaeth Rheoli Cyfeiriadau gan roi ateb i chi o fewn 28 diwrnod.
Canllawiau ar gyfer dewis enwau strydoedd
Dylai'r enw stryd arfaethedig fod yn:
- Ddwyieithog oni bai y caiff enw Cymraeg ei gynnig
- Hawdd i'w gyfieithu i'r Gymraeg
- Deillio o gysylltiadau lleol, hanesyddol neu ddaearyddol yr ardal lle bynnag y bo hynny'n bosibl.
Yn ogystal â hyn, dylai enwau stryd gychwyn gyda'r rhagddodiaid canlynol:
- I ffyrdd preswyl - ffordd/heol, stryd.
- Ar gyfer ffyrdd pengaead a datblygiadau bychain - cilgaint, clos, sgwâr, cwrt/llys neu ystablau.
Trefnu archwiliad safle trwy ap symudol LABC Powys. Gallwch nawr gysylltu â ni i drefnu archwiliad safle ar eich ffôn symudol unrhyw adeg o'r dydd, sy'n grêt os ydych chi allan neu ar y safle. Llwythwch ein ap archwiliad safle LABC Powys (ar gyfer Apple ac Android) ar eich ffôn symudol. Cyfarwyddiadau yma. Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau