Meddyginiaeth (Achrededig)
Cwrs achrededig 1 diwrnod trwy Zoom am hyd at 20 o ddysgwyr.
Dyma amlinelliad o'r cwrs
- Hunanasesu gwybodaeth a chymhwysedd
- Asesiad llythrennedd a rhifedd drwy astudiaethau achos
- Rôl y sefydliadau Polisi a Gweithdrefn Rhoi Meddyginiaeth
- Deddfwriaeth ac arfer gorau
- Deddf Meddyginiaethau 1968
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
- Deddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016 a Rheoliadau Gwasanaethau a Reoleiddir (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017
- Deddf Diogelu Data 2018
- NICE SC1: Rheoli Meddyginiaethau mewn Cartrefi Gofal
- NICE NG67:Rheoli meddyginiaethau i oedolion sy'n derbyn gofal cymdeithasol yn y gymuned
- Gofal Cymdeithasol Cymru: Dyletswydd Didwylledd
- Gofal Cymdeithasol Cymru: Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol
- RISCA Rheoliad 58 Meddyginiaeth a chanllawiau statudol
- Polisi a gweithdrefn
- Hyfforddiant a chymhwysedd staff
- Archebu ac ail-archebu
- Storio
- Cyffuriau rheoledig
- Cysoni
- Rheoli stoc
- Goruchwylio ac archwilio
- Tasgau dirprwyedig
- Cynlluniau personol ac asesiadau risg
- Cyfeirio at anghenion meddyginiaeth mewn cynlluniau personol
- Risgiau sy'n gysylltiedig â meddyginiaeth
- risgiau o gymryd y feddyginiaeth
- risgiau hirdymor
- risgiau o beidio â chymryd y feddyginiaeth
- Sicrhau bod cynlluniau personol ac asesiadau risg yn gyson â'i gilydd a'r MAR
o Meysydd risg eraill
- Teuluoedd sy'n dod â meddyginiaeth i mewn i'r gwasanaeth
- Dyletswyddau rhoi meddyginiaeth a rennir
- Newidiadau i feddyginiaethau
· Gwrtharwyddion a rhyngweithiadau cyffuriau
· Effeithiau anffafriol a sut i gael gafael ar wybodaeth am effeithiau anffafriol
· Cofnodion meddyginiaeth (MAR)
- Pwrpas MAR
- Cwblhau MAR â llaw
- Recordio ar MAR
- Arfer da a gwallau cyffredin gyda chofnodi
- Defnyddio'r codau am beidio â rhoi'r meddyginiaeth
- Defnyddio'r nodiadau gofal ar gefn y MAR
· Meddyginiaeth PRN
- Diffinio PRN
- Meddyginiaeth dos amrywiol
- Protocolau PRN
· Meddyginiaeth argroenol a'r angen am fap corff neu TMAR
· Diffinio meddyginiaeth
· Dosbarthiadau meddyginiaeth
- Presgripsiwn yn unig
- Fferyllfa
- Rhestr cyffredinol o rai sy'n cael eu gwerthu
- Cyffuriau rheoledig
· Pwysigrwydd cael gafael ar y wybodaeth ynghylch pam mae'r person yn cymryd y feddyginiaeth
· Lefelau cymorth
- Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd a Darparwyr Gofal Cymdeithasol mewn Perthynas â Meddyginiaethau a Gweithwyr Cymorth Gofal
· Pecynnu meddyginiaeth - manteision ac anfanteision
- Pecynnu gwreiddiol - mewn bocsys
- Blychau Dossett
- Cod pils
- Pecynnau pothell
- Cyffuriau rheoledig
- Deddf Camddefnyddio Cyffuriau, 1971
- Trefnlenni
- Storio
- Cofnodi
- Cyffuriau rheoledig yng nghartref yr unigolyn ei hun
- Cyffuriau rheoledig a pholisi a gweithdrefnau'r sefydliad
· Rheoli risgiau elïau lliniarol fflamadwy
· Paratoi
- Powdwr e.e Fybogel
- Tabledi sy'n toddi
- Daliannau
· 6 hawl rhoi meddyginiaeth
· Arfer da o ran meddyginiaeth mewn bocsys - defnyddiwch un stribed yn unig ar y tro a dilynwch y drefn gywir
· Rhoi meddyginiaeth (os yw'n cael ei ganiatáu gan bolisi'r sefydliad)
- Tabledi geneuol
- Hylifau geneuol
- Clwt drwy'r croen
- Diferion llygaid
- Diferion trwynol
- Meddyginiaeth ar gyfer y glust
· Hylifau Tewhau
- Fframwaith IDDSI
- Storio'n ddiogel
· Meddyginiaeth dros y cownter a meddyginiaeth gartref (os yw'n cael ei ganiatáu gan bolisi'r sefydliad)
· Gwallau cyffredin
- Gwallau proses
- Cofnodi gwallau
- Gwallau gweinyddol
- Rheoli'r gwall
· Archwiliadau a sicrhau ansawdd
· Gwaredu meddyginiaethau
- Cartrefi nyrsio
- Cartrefi preswyl
- Gofal cartref a byw â chymorth
Ar ôl y cwrs, bydd y dysgwyr yn cwblhau asesiad amlddewis o 30 cwestiwn, bydd hyn yn cael ei ddychwelyd drwy e-bost i'w farcio ar ddiwrnod y cwrs. Rhaid i ddysgwyr gyflawni sgôr o 23 neu uwch i basio'r cwrs a chael eu cyflwyno i'w hardystio gan y corff dyfarnu.
Bydd tystysgrifau'n cael eu hanfon drwy e-bost pan fyddant yn cael eu derbyn gan y corff dyfarnu.
Dyddiadau (9.30am - 4.30pm)
- 21 Mai 2024
- 8 Gorffennaf 2024
- 23 Hydref 2024
- 4 Tachwedd 2024
- 24 Ionawr 2025
- 4 Mawrth 2025
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses