Dod yn warchodwr plant cofrestredig

Gweithion o fewn Gofal Plant
Mae adnoddau newydd ar weithio ym maes gofal plant ar gael oddi wrth Gyngor Gofal Cymru. Mae eu llyfryn yn cynnwys gwybodaeth am ddyletswyddau nodweddiadol, y cymwysterau sydd eu hangen arnoch ac astudiaeth achos.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Cyngor Gofal Cymru am brofiad gwaith o fewn Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar.
Dechrau Arni
Mae'r AGC wedi llunio pecyn gwybodaeth ar ddod yn ofalwr plant cofrestredig. Mae ganddynt gyfarwyddyd ar y broses gofrestru ynghyd â gwybodaeth ar reoliadau a'r safonau cenedlaethol isaf.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ddarparwr gofal plant, gall y Swyddog Cefnogi/Recriwtio Gofalwyr Plant yn to Tim Cymorth Busnes Gofal Plant eich helpu i ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth.
E-Ddysgu
Mae pecyn E-Ddysgu gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi sy'n trafod pynciau megis:
- Dechrau busnes
- Cofrestru eich bod yn hunangyflogedig
- Pa gofnodion ddylwn i eu cadw?
- Beth allaf ei hawlio yn erbyn fy incwm?
Mae'r pecyn wedi'i ddylunio fel ei fod yn hwylus i'w ddefnyddio - nid oes rhaid i chi wneud y cyfan ar unwaith.
12 cam i ddod yn warchodwr plant
- Cysylltu â Thim Cymorth Busnes Gofal Plant i drefnu a mynychu sesiwn briffio ar 01597 829678
- Ysgrifennu at eich landlord (os ydych yn denant) ac at Gyngor Sir Powys i ofyn caniatâd i redeg busnes o'ch cartref.
- Darllen y canllawiau Safonau Cenedlaethol o Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a gofyn am ffurflenni cais i gofrestru i warchod plant a ffurflenni gwirio'r DBS (neu lawrlwytho a llenwi'r ffurflenni)
- Trefnu lle ar y cwrs Gwarchod Plant CYPOP 5, trwy'r Uned Hyfforddi.
- Llunio'r polisïau a gweithdrefnau angenrheidiol, gan y bydd rhaid cynnwys y rhain yn eich cais i gofrestru. Mae gan Tim Cymorth Busnes Gofal Plant sampl o bolisïau i chi eu haddasu.
- Trefnu lle ar Gwrs Cymorth Cyntaf a chwrs, Glanweithdra Bwyd ac unrhyw gyrsiau eraill sy'n berthnasol i chi. Byddwn yn awgrymu y dylech fynychu cwrs Amddiffyn Plant. Mae'r rhain am ddim drwy'r Uned Hyfforddi.
- Llenwi eich ffurflenni cais AGC a'ch ffurflenni gwirio DBS, gan gynnwys unrhyw ddogfennau a gwybodaeth ategol. Gwnewch apwyntiad gyda'r AGC yng Nghaerfryddin i fynd drwy eich cais (0300 7900 126)
- Taro golwg dros eich cartref o safbwynt plentyn bach a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol e.e. diogelu rhag corneli siarp a gosod cloeon ar gypyrddau.
- Cysylltu â Tim Cymorth Busnes Gofal Plant am gwmni aelodaeth ac yswiriant a awgrymir. Gwirio eich yswiriant cerbyd a chartref. Bydd angen i chi gynnwys defnydd busnes ar yswiriant eich cerbyd.
- Llunio cyllideb a phrynu'r cyfarpar sydd ei hangen arnoch.
- Bydd yr AGC yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad cyn cofrestru. Pan fyddwch wedi rhoi eu holl argymhellion ar waith, fe gewch eich cofrestru.
- Cysylltu â'r swyddfa drethi a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gofrestru fel unigolyn hunan gyflogedig. Byddwch hefyd yn gymwys i dderbyn grant o hyd at £200 gan PPPI pan fyddwch yn cofrestru. Cysylltwch a Tim Cymorth Busnes Gofal Plant am ragor o wybodaeth a ffurflen grant.
Bydd Tim Cymorth Busnes Gofal Plant yn parhau i'ch cefnogi chi ac i gynnig help a chyngor fel bo'r angen.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth gallwch gysylltu â Tim Cymorth Busnes Gofal Plant.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau