Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cynnal a chadw ar wefan Cyngor Sir Powys ddydd Mawrth 15 Hydref

Dod yn warchodwr plant cofrestredig

Childminder

Become a registered childminder
12 cam i ddod yn warchodwr plant

  1. Cysylltu â'r Tîm Cymorth Busnes Gofal Plant i drefnu a mynychu sesiwn briffio rhithiol AM DDIM (sesiwn wybodaeth fer)  E-bost: powyschildcareteam@powys.gov.uk
  2. Ysgrifennu at eich landlord yn gofyn am ganiatâd i redeg busnes o'ch cartref os ydych chi mewn eiddo rhent.
  3. Ar ôl mynychu'r sesiwn briffio, cadarnhau yr hoffech gofrestru i wneud cymhwyster gwarchod plant. Cofrestru gyda'r darparwr hyfforddiant a chwblhau asesiadau. 
  4. Llunio polisiau a gweithdrefnau gan fydd angen eu cynnwys gyda'ch cais i gofrestru.  Mae gan y Tîm Cymorth Busnes Gofal Plant samplau o bolisiau i chi eu haddasu. 
  5. Gwneud cais am wiriad manylach y DBS ar gyfer pob aelod o'ch aelwyd sydd dros 16 oed. 
  6. Darllen y canllawiau ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol gan y CIW a chofrestru ar-lein. 
  7. Trefnu cwrs cymorth cyntaf i blant (12 awr) a chwrs hylendid bwyd.  Rydym hefyd yn argymell gwneud cwrs Diogelu Plant. 
  8. Archwilio eich tŷ o safbwynt plentyn bach a gwneud yr addasiadau angenrheidiol - e.e. mynd i'r afael ag unrhyw gorneli miniog a gosod cloeon atal plant ar gypyrddau. 
  9. Cysylltu â Thîm Cymorth Busnes Gofal Plant Powys am awgrymiadau o gynlluniau ymaelodi a chwmniau yswiriant.  Sicrhau bod gennych yswiriant priodol o ran cerbydau a'r tŷ.  Bydd angen defnydd busnes ar eich yswiriant car. 
  10. Gosod cyllideb a phrynu'r cyfarpar angenrheidiol. 
  11. Bydd y CIW yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad cyn-cofrestru.  Pan fyddwch wedi cwblhau'r holl argymhellion, byddwch wedyn yn cael eich cofrestru. 
  12. Cysylltu â'r swyddfa dreth a'r HMRC i gofrestru'n hunangyflogedig.  Bydd y Tîm Cymorth Busnes Gofal Plant yn parhau i'ch cefnogi chi ac i gynnig arweiniad a chyngor ar unrhyw fater.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Busnes Gofal Plant Powys. 

 

Gweithion o fewn Gofal Plant

Mae adnoddau newydd ar weithio ym maes gofal plant ar gael oddi wrth Gyngor Gofal Cymru. Mae eu llyfryn yn cynnwys gwybodaeth am ddyletswyddau nodweddiadol, y cymwysterau sydd eu hangen arnoch ac astudiaeth achos.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Cyngor Gofal Cymru am brofiad gwaith o fewn Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar.

 

Become a registered childminder
Dechrau Arni

Mae'r AGC wedi llunio pecyn gwybodaeth ar ddod yn ofalwr plant cofrestredig. Mae ganddynt gyfarwyddyd ar y broses gofrestru ynghyd â gwybodaeth ar reoliadau a'r safonau cenedlaethol isaf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ddarparwr gofal plant, gall y Swyddog Cefnogi/Recriwtio Gofalwyr Plant yn to Tim Cymorth Busnes Gofal Plant eich helpu i ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth.

 

Become a registered childminder
E-Ddysgu

Mae pecyn E-Ddysgu gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi sy'n trafod pynciau megis:

  • Dechrau busnes
  • Cofrestru eich bod yn hunangyflogedig
  • Pa gofnodion ddylwn i eu cadw?
  • Beth allaf ei hawlio yn erbyn fy incwm?

Mae'r pecyn wedi'i ddylunio fel ei fod yn hwylus i'w ddefnyddio - nid oes rhaid i chi wneud y cyfan ar unwaith.

 

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu