Toglo gwelededd dewislen symudol

Trawsnewid System Anghenion Dysgu Ychwanegol

ALN logo

Cafodd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Rhagfyr 2017 a daeth yn Ddeddf ar 24 Ionawr 2018 ar ol cael Cydsyniad Brenhinol.

Caiff y Ddeddf ei chefnogi gan:

  • Reoliadau - is-ddeddfwriaeth pan fo manylion pellach yn ofynnol
  • Cod ADY - cyfarwyddyd statudol a gofynion gorfodol i helpu pobl a sefydliadau i weithio oddi fewn i'r gyfraith

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bu Cyngor Sir Powys yn gweithio i wella cynllunio a chyflenwi darpariaeth dysgu ychwanegol yn unol â fframwaith deddfwriaethol a osodwyd allan gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r rhaglen trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Daeth newid sylfaenol yn sgil hyn i'r ffordd y caiff plant a phobl ifanc eu cefnogi.

Mae'r ddeddfwriaeth ADY newydd hon a'r gofynion statudol sydd ynghlwm wedi bod yn yrwyr allweddol o ran sefydlu system gynhwysiant newydd a phrosesau cysylltiedig gan Gyngor Sir Powys. Rhoddodd gyfle i'r awdurdod lleol (ALl) adolygu a diwygio ei brosesau cynhwysiant a'u gwneud yn ffit i bwrpas, ac mor effeithiol ag sy'n bosibl i'r ALl, ysgolion, lleoliadau a'r plant a'r bobl ifanc y mae'n gweithio ar eu helpu a'u cefnogi yn y pen draw.  

Caiff y system gynhwysiant newydd ei greu allan o dair elfen graidd, sef, porth Tyfu, platfform Tyfu, a Phanel Cynhwysiant Powys (PCP) / PCP y Blynyddoedd Cynnar. Caiff y system hon ei chefnogi a'i rhoi ar waith gan y tîm Gwasanaethau Ieuenctid a Chynhwysiant.

Desg gymorth ffôn ac e-bost yw porth Tyfu. Swyddogaeth y porth yw bod yn bwynt cyswllt cychwynnol a llinell gymorth i ysgolion, rhieni a gweithwyr proffesiynol, a'u cyfeirio at y lle cywir os oes angen.  

Mae platfform Tyfu yn system meddalwedd ar-lein sy'n rhoi'r gallu i gipio manylion taith gynhwysiant gyflawn disgybl, gan ddechrau gyda Phroffil Un Dudalen i Gynllun Dysgu Cyffredinol, hyd at Gynllun Datblygu Unigol. Y mae hefyd yn galluogi datblygu ac integreiddio Cynlluniau Addysg Personol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Cafodd y platfform ei ddatblygu ar gyfer:

  • Integreiddio gyda'r paneli sy'n gwneud penderfyniad - PCP a PCPBC
  • Darparu mynediad diogel i ddisgyblion / rhieni / gweithwyr proffesiynol, ar gyfer cydweithio
  • Cyflawni cydymffurfiaeth statudol i'r awdurdod, ysgolion a lleoliadau
  • Galluogi cydweithio gyda'r bwrdd iechyd
  • Cipio cyfoeth o ddata ledled y sir gan gynnwys data grwpiau cynhwysiant

Mae CPP a PCPBC PIPyn baneli aml-asiantaethol sy'n ganolog gydlynu pob penderfyniad gaiff ei wneud mewn perthynas â cheisiadau oddi wrth ysgolion / lleoliadau ar gyfer darpariaeth dysgu ychwanegol y llywodraeth leol (DDY) neu gymorth GIG. Mae'r paneli hefyd yn rheoli gofyniad statudol ALl mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Unigol ALl. Tra bo CCP wedi bodoli yn yr awdurdod ers sawl blwyddyn, cafodd cylch gorchwyl a gweithdrefnau gweithredu newydd eu datblygu o dan system cynhwysiant newydd, ynghyd â sawl is-bwyllgor i sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn effeithlon ac amserol. Mae CCPBC yn is-bwyllgor o CCP. Mae rhai prosiectau oddi fewn i raglen trawsnewid ADY wedi cael eu cwblhau bellach ac yn cael eu gwerthuso i asesu effeithiolrwydd y gwasanaethau rydym yn eu darparu. Mae eraill yn parhau i fynd.

Bydd y system trawsnewidiol yn:

  • sicrhau bod yr holl ddysgwyr ag ADY yn cael eu cefnogi i oresgyn rhwystrau at ddysgu a chyflawni eu potensial yn llwyr
  • gwella cynllunio a darparu cymorth i ddysgwyr o 0 i 25 sydd ag ADY, gan osod anghenion, safbwyntiau, dymuniadau a theimladau dysgwyr wrth galon y broses.
  • canolbwyntio ar bwysigrwydd nodi anghenion yn gynnar a rhoi ymyraethau amserol ac effeithiol ar waith sy'n cael eu monitro a'u haddasu i sicrhau eu bod yn cyflawni'r deilliannau a ddymunir.

Mae'r rhaglen trawsnewid ADY hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau'r gweithlu addysg, er mwyn darparu cymorth effeithiol i ddysgwyr ag ADY yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â mynediad haws at:

  • cymorth arbenigol
  • gwybodaeth
  • cyngor

Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol | LLYW.CYMRU

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y Taflenni Ffeithiau canlynol gan Lywodraeth Cymru:

Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018: canllaw technegol | LLYW.CYMRU

System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): canllaw i rieni a theuluoedd | LLYW.CYMRU

System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): canllaw i blant | LLYW.CYMRU

System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): canllaw pobl ifanc | LLYW.CYMRU

System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): hawliau rhieni | LLYW.CYMRU

Datganiad Ysgrifenedig: Diwygio ADY yng Nghymru (20 Medi 2022) | LLYW.CYMRU

ADY ym Mhowys yn cael ei ddathlu fel yr arfer gorau gan Estyn: Gwella gwerthuso, cynllunio a chydlynu'r ddarpariaeth i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig (AAA) a disgyblion eraill y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt | Estyn (llyw.cymru)

Pe ddymunech gael mwy o wybodaeth am Raglen Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol mae croeso i chi gysylltu â ni: