Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhaglen Datblygu Rheolwr Tîm

Mae'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC), ym Mhrifysgol Oxford Brookes, wedi cael ei gomisiynu i gyflwyno rhaglen ddatblygu ar gyfer rheolwyr timoedd gofal cymdeithasol led led Cymru. Mae gwelliant yn ansawdd gwasanaeth wrth wraidd diwygiadau gofal cymdeithasol, a rheolwyr rheng flaen ac uwch ymarferwyr sy'n gyfrifol am gyflwyno'r gwelliant hwn i ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae'r rhaglen wedi cael ei chynllunio'n benodol i helpu rheolwyr rheng flaen ac uwch ymarferwyr mewn lleoliadau gofal cymdeithasol i wella rheoli ansawdd arfer o fewn gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.

Bydd y rhaglen yn galluogi rheolwyr i wella ansawdd arfer o fewn eu timoedd. Mae'n arbennig o ryngweithiol a bydd yn cynnig dulliau cymorth a sgiliau ymarferol ynghyd â gwybodaeth berthnasol newydd i'r sawl sy'n cymryd rhan. Wrth gwblhau'r rhaglen, bydd y sawl sy'n cymryd rhan gyda dealltwriaeth well o'r prif yrwyr sy'n dylanwadu ar ansawdd arfer o fewn gofal cymdeithasol a gyda sgiliau gwell i wneud penderfyniadau gwell ar reoli achosion. Bydd y rhaglen hefyd yn datblygu sgiliau personol y gellir eu trosglwyddo megis rheoli prosiectau, gwerthuso a meddwl yn feirniadol.

Gwybodaeth fanwl am y prif yrwyr sy'n dylanwadu ar ansawdd arfer mewn lleoliadau gofal cymdeithasol a dealltwriaeth allweddol o'u cymhwyso i sefydliad y myfyriwr ei hunan

Y gallu i weithredu arfer rheoli o ansawdd dda o fewn eu tîm

Dadansoddi a gwerthuso gallu personol, a dylunio a rheoli eu strategaeth datblygiad personol eu hunain.

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau