Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Porth Agored - Blwyddyn Gyntaf mewn Arfer - Gweithwyr Cymdeithasol sydd Newydd Gymhwyso

Mae'r cymhwyster hwn wedi cael ei ddylunio a'i ddatblygu gan bartneriaeth o 12 awdurdod lleol, a elwir gyda'i gilydd yn Borth Agored 

Nod Cyngor Sir Powys yw sicrhau fod Gweithwyr Cymdeithasol sydd Newydd Gymhwyso a gyflogir gan y Cyngor yn atgyfnerthu a datblygu eu sgiliau a gwybodaeth gwaith cymdeithasol a enillwyd trwy Radd mewn Gwaith Cymdeithasol.  Er mwyn cyflawni hyn, mae cyfres o safonau a phroses wedi cael eu datblygu. Enw'r ddogfen yw'The support, management and development of newly qualified social workers (NQSWs) during their first year in practice'.

Mae cynllun datblygu gan bob gweithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso ac yn ymuno â Chyngor Sir Powys er mwyn eu cefnogi yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Bydd y cynllun yn dynodi anghenion dysgu a chefnogi unigol a sut y bydd y rhain yn cael eu trafod. Cyfrifoldeb Rheolwr y Tîm yw sicrhau fod y cynllun yn cael ei lunio a'i weithredu. Unwaith y bydd y cynllun wedi'i gwblhau a'i arwyddo gan Reolwr y Tîm, yna gall y gweithiwr cymdeithasol barhau ar y Rhaglen Atgyfnerthu.

Yn eu blwyddyn gyntaf o arfer, bydd pob Gweithiwr Cymdeithasol sydd Newydd Gymhwyso angen gweithio ar ddatblygu eu rôl fel gweithiwr cymdeithasol cymwys, gan ddeall yr hyn a ddisgwylir ohonynt fel gweithiwr a rhywun proffesiynol, a sut mae'r sefydliad yn gweithredu.

Bydd angen iddynt hefyd ddatblygu dealltwriaeth o'r gymuned lle meant yn gweithio. Gyda'i gilydd bydd y meysydd dysgu hyn yn cynorthwyo wrth atgyfnerthu a datblygu eu gwaith cymdeithasol.

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau