Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gofal Plant - Dysgu a Datblygiad - Diploma Lefel 3/5

Mae'r diploma hwn ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg

Bwriad y cymhwyster hwn yw meithrin gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc o enedigaeth i 19 mlwydd oed neu reoli arfer ac arwain eraill mewn gofal, addysg a datblygiad plant yng Nghymru.

Gan ddibynnu ar y lefel, mae'n cynnwys ystod amrywiol o swyddi a meysydd galwedigaethol sy'n gweithio mewn lleoliadau plant gan gynnwys blynyddoedd cynnar ac ystod eang o bynciau, gan gynnwys: arfer proffesiynol arweiniol, iechyd a diogelwch a rheoli peryglon, diogelu a datblygu arfer goruchwylio proffesiynol.

Fe fyddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys: -

  • Cyfathrebu gyda phlant
  • Cydraddoldeb
  • Datblygiad personol
  • Diogelu plant a phobl ifanc
  • Datblygu perthnasoedd positif gyda phlant a phobl ifanc
  • Gweithio gyda'n gilydd
  • D eilliannau positif i blant a phobl ifanc
  • Hyrwyddo dysgu a datblygiad yn y blynyddoedd cynnar
  • Hyrwyddo lles plant yn y blynyddoedd cynnar
  • Arfer proffesiynol
  • Cefnogi lleferydd, iaith a chyfathrebu plant

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau