Cynllun Bwrsariaeth y Sector Ehangach (QCF)
Bydd y Cynllun yn agored i ymgeiswyr o holl asiantaethau partner y sector annibynnol sy'n cael eu comisiynu neu dan gontract gan Gyngor Sir Powys i gyflwyno gwasanaeth gofal cymdeithasol o fewn Powys. Rhaid i'r gwasanaeth a ddarperir fod wedi'i gomisiynu neu dan gontract gan Gyngor Sir Powys.
- Rhaid i'r ymgeisydd weithio o fewn ffiniau daearyddol Powys.
- Mae'r cynllun i ddatblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ac felly mae ond yn gymwys i ddyfarniadau sy'n ymwneud â Gofal Cymdeithasol neu Ofalu am Blant a Phobl Ifanc.
- Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cyflawni eu cymhwyster trwy'r llwybr gofal cymdeithasol (yn hytrach na'r llwybr iechyd). Rhaid i'r unedau a ddewisir fod o'r llwybr gofal cymdeithasol sydd ar gael.
- Mae'r cymhwyster yn cyd-fynd â gofynion presennol y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer y sector gofal cymdeithasol fel y nodir gan Gyngor Gofal Cymru.
- Bydd darparwyr gwasanaeth yn gyfrifol am sicrhau lleoedd i'w staff ar raglenni QCF
- Bydd yr holl dystysgrifau cymhwyster ar gyfer blwyddyn ariannol 1 Ebrill 2021 - 31 Mawrth 2022 yn cael eu hystyried ar gyfer taliadau bwrsariaeth, yn amodol ar gronfeydd. Bydd y taliadau yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i'r cyflogwr, wedi derbyn tystiolaeth a nodir yn y ffurflen gais a chyfarwyddyd.
- Rhaid llenwi ffurflen gais y Cynllun Bwrsariaeth QCF i Ddatblygu'r Gweithlu yn llwyr a rhaid cyflwyno tystiolaeth briodol. Mae tystiolaeth yn golygu copi o'r dystysgrif derfynol gan y Corff Dyfarnu gan gynnwys llofnod yr ymgeisydd ar y ffurflen gais. (Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol, gan na fydd cyfrifoldeb yn cael ei gymryd am y rhain os byddant ar goll.)
- Bydd bwrsariaethau yn cael eu gwneud yn daladwy trwy ddull arferol y darparwyr gwasanaeth o dderbyn taliadau gan yr Awdurdod Lleol. Gwnewch geisiadau dan enw masnachu'r cwmni neu'r sefydliad fel y cynhelir gan Gyngor Sir Powys. Dylid cynnwys yr anfoneb gan y darparwr gwasanaeth ar gyfer y fwrsariaeth gyda'r cais.
- I gydnabod yr ymrwymiad a'r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i ryddhau staff i ddilyn rhaglenni QCF a chyflwyno staff eraill yn eu lle, bydd angen gwneud taliad bwrsariaeth hyd yn oed os yw'r darparwr gwasanaeth wedi llwyddo i sicrhau lleoedd am ddim ar raglenni QCF.
- Efallai y bydd y darparwr gwasanaeth yn defnyddio ei Ganolfan Asesu ei hunan neu Ganolfan Asesu QCF annibynnol
- Ni fydd yr Awdurdod Lleol yn darparu bwrsariaethau ar gyfer ceisiadau gan ddarparwyr gwasanaeth lle mae'r QCF wedi cael ei ariannu eisoes gan gronfeydd Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol.
- Bydd y Cynllun Bwrsariaeth ond ar gael tan y bydd y galw yn mynd y tu hwnt i'r adnoddau ariannol sydd ar gael am y flwyddyn ariannol.
- Dim ond unwaith y gellir hawlio nawdd o ran unrhyw un ymgeisydd, hyd yn oed os ydynt yn gweithio i fwy nag un darparwr gwasanaeth. Yn yr achos hwn, bydd y fwrsariaeth yn cael ei thalu i ddarparwr gwasanaeth sy'n gwneud y cais cyntaf.
- Rhaid i enw'r ymgeisydd am fwrsariaeth fod yr un fath â'r enw ar y copi o'r dystysgrif sy'n mynd gyda'r cais (h.y. dim llysenwau neu dalfyriadau). Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried. Sicrhewch fod yr holl wybodaeth sy'n ofynnol yn cael ei chyflwyno.
- Lle bo ymgeiswyr wedi talu am eu cymhwyster QCF eu hunain, a bod y darparwr gwasanaeth yn gwneud hawliad am y Fwrsariaeth, mae unrhyw ad-daliad i'r ymgeisydd i'w benderfynu rhwng y darparwr gwasanaeth a'r ymgeisydd.
- Mae darparwyr gwasanaeth yn cytuno i gymryd rhan mewn gwerthusiad o'r hyfforddiant a chwblhau'r Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddiant.
Cyfanswm y Fwrsariaeth
- QCF Diploma Lefel 2 £300
- QCF Diploma Lefel 3 £350
- QCF Diploma Lefel 5 £450
- QCF Diploma Lefel 6 £500
- QCF Diploma Lefel 7 £550
- QCF Diploma Lefel 8 £600
Cyswllt