Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gofalu am adeiladau hanesyddol

Image of a historic building
Mae gwaith atgyweirio a chynnal a chadw rheolaidd yn allweddol i gadw eich eiddo hanesyddol mewn cyflwr da. Gall cadw ar ben gwaith cynnal a chadw rheolaidd atal yr angen am waith llawer mwy drud yn ddiweddarach. Os byddwch yn archwilio eich eiddo'n rheolaidd, e.e. bob blwyddyn, byddwch yn dod o hyd i bethau sydd angen eu gwneud - tra byddant dal yn gallu cael eu trwsio'n gyflym.

Cynnal a Chadw Rheolaidd

Dylai gwaith cynnal a chadw rheolaidd ganolbwyntio ar gadw dwr a thamprwydd allan. Pan na chyflawnir gwaith cynnal a chadw yn rheolaidd, bydd y perchnogion yn synnu pa mor gyflym fydd strwythur yn dirywio. Bydd methu clirio cwter yn achosi i bibelli flocio, all arwain at ddamprwydd a difrod i adeilad. Felly mae'n syniad da archwilio toeon, cwteri, pibellau, gyliau a draeniau yn rheolaidd.

Gall perchennog yr adeilad fynd i'r afael â thasgau cynnal a chadw dyddiol, megis:

  • Clirio dail a silt o gwteri, toeon fflat, pibellau, gyliau ac ati
  • Clirio eira'n ofalus o gafnau a chwteri parapet, toeon fflat ac ati
  • Cael gwared ar blanhigion
  • Gofalu fod awyrwyr yn yr adeilad ac yn y to ar agor.

Efallai mai bobl broffesiynol fyddai orau i ddelio â materion eraill. Gwnewch yn siwr eich bod yn cynnal unrhyw waith cynnal a chadw ar adeiladau yn ddiogel.

Nid oes cymorth grant ar gael ar gyfer gwaith cynnal a chadw rheolaidd ond bydd yn arbed arian yn y tymor hir. Mae'n bosibl y bydd gan yr awdurdod lleol neu  Cadw nawdd i adnewyddu neu atgyweirio adeiladau hanesyddol.

Archwiliadau manwl

Heblaw am archwiliad blynyddol, argymhellir y dylid gwneud archwiliad manylach dyweder bob pum mlynedd efallai gan swyddog proffesiynol gyda'r cymwysterau addas a fydd hefyd yn archwilio uniadau agored mewn gwaith maen a rendrad wedi cracio a fydd yn atal dirywiad diangen yng nghyflwr yr adeilad.

I gael cyngor annibynnol defnyddiwch bensaer neu syrfëwr adeiladu sydd â phrofiad o adeiladau hanesyddol yn hytrach na rhywun gyda rhywbeth i'w werthu. Byddai arolwg ffotograffig yn gymorth i fonitro cyflwr adeilad dros gyfnod o amser. 

Er y bydd yr hyn y byddwch yn ei wirio fel rhan o archwiliad yn dibynnu ar nodweddion eich eiddo, ceir rhestr isod i'ch cynorthwyo i roi cychwyn ar y gwaith. Gwnewch restr o gyflwr yr holl elfennau a archwiliwch ac unrhyw broblemau y dowch ar eu traws. 

Blaenoriaethwch y rhestr o waith a phenderfynwch a oes angen adeiladwr cyffredinol neu arbenigwr ar gyfer tasg arbennig. Cofiwch nad oes raid gwneud popeth ar unwaith. 

Gellir dod o hyd i fanylion pellach ar gynnal a chadw adeiladau a rhestrau gwirio defnyddiol i'ch helpu i ddiogelu eich adeilad ar www.maintainyourbuilding.org.uk neu mae cyhoeddiad defnyddiol o'r enw 'A Stitch in Time' ar gael i'w lawr lwytho oddi ar y wefan Institute of Historic Building Conservation.

Atgyweirio adeiladau hanesyddol

Prif nod gwaith atgyweirio yw diogelu'r adeilad heb ddifrodi ei arwyddocâd hanesyddol, pensaerniol nac archeolegol. Gall atgyweirio adeiladau hanesyddol fod yn gymhleth a'r hyn sydd orau yw cael arbenigwyr i'w gynnal, ond dylai'r cyfarwyddyd cyffredinol hwn helpu perchnogion i ddeall egwyddorion y broses atgyweirio.

  • Rhaid i'r holl waith barchu cymeriad a chywirdeb yr adeilad neu'r strwythur a'i safle.
  • Rhaid i gynlluniau atgyweirio fod yn gynhwysfawr.
  • Defnyddio technegau neu ddulliau adeiladu priodol a deunyddiau traddodiadol o ansawdd uchel, fel arfer ar sail debyg i'w debyg.
  • Peidiwch â chynnal gwaith diangen - 'y lleiaf y gorau'.
  • Ceisiwch ystyried yn ofalus cyn gwaredu ag unrhyw addasiadau blaenorol.
  • Mae gwaith monitro a chynnal a chadw rheolaidd yn lleihau'r angen am atgyweiriadau costus a difrod o bwys, tra'n diogelu lles a chyflwr adeilad.
  • Dylid seilio adfer nodweddion coll ar dystiolaeth ac fel y dewis olaf pan mae gwaith atgyweirio syml yn amhosibl neu'n amhriodol.