Brexit
Ers y refferendwm, mae Cyngor Sir Powys a phob awdurdod lleol arall yng Nghymru wedi bod yn cynllunio ar gyfer gwahanol senarios Brexit, gan gynnwys sefyllfa heb gytundeb.
Mae wedi bod yn gweithio â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phartneriaid o fewn y sector cyhoeddus i gydlynu paratoadau, gan dderbyn cyngor a gwybodaeth gan nifer fawr o ffynonellau ar beth ddylid fod yn eu lle.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi creu adran wybodaeth ar-lein ar Brexit, sy'n cynnwys cyngor, gwybodaeth ac adnoddau penodol ar sefyllfa heb gytuneb. Mae'r adnoddau'n cynnwys 'pecyn cymorth ar fod yn barod' i helpu cynghorau lunio cynlluniau ar ran eu cymunedau a busnesau, ac mae'r cyngor wedi defnyddio hwn fel rhan o'i waith paratoi.
Ym mis Ionawr 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru 'siop un-stop' ar-lein i'r cyhoedd ar wefan 'Paratoi Cymru' at Brexit: