Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Brexit

Ers y refferendwm, mae Cyngor Sir Powys a phob awdurdod lleol arall yng Nghymru wedi bod yn cynllunio ar gyfer gwahanol senarios Brexit, gan gynnwys sefyllfa heb gytundeb.

Mae wedi bod yn gweithio â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phartneriaid o fewn y sector cyhoeddus i gydlynu paratoadau, gan dderbyn cyngor a gwybodaeth gan nifer fawr o ffynonellau ar beth ddylid fod yn eu lle.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi creu adran wybodaeth ar-lein ar Brexit, sy'n cynnwys cyngor, gwybodaeth ac adnoddau penodol ar sefyllfa heb gytuneb.   Mae'r adnoddau'n cynnwys 'pecyn cymorth ar fod yn barod' i helpu cynghorau lunio cynlluniau ar ran eu cymunedau a busnesau, ac mae'r cyngor wedi defnyddio hwn fel rhan o'i waith paratoi.

Ym mis Ionawr 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru 'siop un-stop' ar-lein i'r cyhoedd ar wefan 'Paratoi Cymru' at Brexit:

Gwybodaeth y Drigolion

Gweler dolenni i wybodaeth am effaith bosibl Brexit ar drigolion.

Cenedligrwydd a Dinasyddiaeth

Os ydych chi'n ddinesydd o'r Undeb Ewropeaidd, bydd modd i chi a'ch teulu gyflwyno cais i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE er mwyn parhau i fyw yn y Deyrnas Unedig ar ôl 30 Mehefin 2021.

Cyngor i Fusnesau a Sefydliadau Gwirfoddol

Gweld dolenni i wybodaeth ynglŷn ag effaith bosibl Brexit ar fusnesau, pa gymorth sydd ar gael, cynigion o ran sut y dylai busnesau ymdrin â Brexit a sut mae modd iddo effeithio ar Sefydliadau Gwirfoddol.

Cronfa Cydnerthedd Brexit ar gael ar gyfer busnesau Powys

Cyfle i fusnesau ym Mhowys i wneud cais am gyllid i'w helpu i addasu i'r newid yn yr economi Cymreig ar ôl Brexit.