Pan ddaw hi i ailgylchu, mae'n anodd curo metel. Y rheswm am hyn yw bod modd ei ailgylchu'n ddi-ben-draw - gall pob darn ohono gael ei droi'n rhywbeth arall, Ac mae'n gylch sy'n mynd ymlaen am byth.
Gallai'r tuniau bwyd a diod ac eitemau pecynnu metel eraill rydych yn eu hailgylchu gartref gael eu trawsnewid maes o law yn un un o nifer fawr o gynhyrchion newydd, o oriawr neu ffôn clyfar i beiriant golchi neu hyd yn oed bws newydd!
Bob tro y mae metel yn cael ei ailgylchu, mae'n arbed ynni, yn torri allyriadau tŷ gwydr ac yn arbed lle ar safleoedd tirlenwi - felly mae'n newyddion da i'r blaned.
Yn anad dim, 'dyw hi ddim yn gofyn am lawer o ymdrech gennych chi i wneud gwahaniaeth mawr. Y cyfan sy'n rhaid i chi wneud yw golwg eich caniau, eich caniau erosol gwag, tuniau a ffoil i mewn i'r blwch coch - yn hytrach na'r bin sbwriel. Mae hi mor rhwydd â hynny!
Rhowch y pethau canlynol yn eich blwch ailgylchu coch os gwelwch yn dda:
Tuniau diod
Tuniau bwyd
Tuniau bwyd anifeiliaid anwes
Tuniau erosol gwag
Caeadau metel o jariau a photeli
Ffoil coginio (glân)
Platiau ffoil (glân)
Tuniau fferins / bisgedi
Gwnewch yn siŵr bod eich tuniau erosol yn wag a'r ffoil a phlatiau ffoil/tuniau bwyd wedi'u rinsio cyn ychwanegu'r eitemau yma at eich gwastraff ailgylchu.