Toglo gwelededd dewislen symudol

Ailgylchu metelau - Gwneud i'ch metelau gyfrif

Pan ddaw hi i ailgylchu, mae'n anodd curo metel. Y rheswm am hyn yw bod modd ei ailgylchu'n ddi-ben-draw - gall pob darn ohono gael ei droi'n rhywbeth arall, Ac mae'n gylch sy'n mynd ymlaen am byth.
Image of metal recycling

Gallai'r tuniau bwyd a diod ac eitemau pecynnu metel eraill rydych yn eu hailgylchu gartref gael eu trawsnewid maes o law yn un un o nifer fawr o gynhyrchion newydd, o oriawr neu ffôn clyfar i beiriant golchi neu hyd yn oed bws newydd! 

 

Bob tro y mae metel yn cael ei ailgylchu, mae'n arbed ynni, yn torri allyriadau tŷ gwydr ac yn arbed lle ar safleoedd tirlenwi - felly mae'n newyddion da i'r blaned.

Yn anad dim, 'dyw hi ddim yn gofyn am lawer o ymdrech gennych chi i wneud gwahaniaeth mawr. Y cyfan sy'n rhaid i chi wneud yw golwg eich caniau, eich caniau erosol gwag, tuniau a ffoil i mewn i'r blwch coch - yn hytrach na'r bin sbwriel. Mae hi mor rhwydd â hynny!

Rhowch y pethau canlynol yn eich blwch ailgylchu coch os gwelwch yn dda:

  • Tuniau diod
  • Tuniau bwyd
  • Tuniau bwyd anifeiliaid anwes
  • Tuniau erosol gwag
  • Caeadau metel o jariau a photeli
  • Ffoil coginio (glân)
  • Platiau ffoil (glân)
  • Tuniau fferins / bisgedi

Gwnewch yn siŵr bod eich tuniau erosol yn wag a'r ffoil a phlatiau ffoil/tuniau bwyd wedi'u rinsio cyn ychwanegu'r eitemau yma at eich gwastraff ailgylchu.

Mae'r holl fetel yn ailgylchadwy, ond dylech fynd ag eitemau eraill na allwn mo'u casglu i'ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff o'r Cartref agosaf e.e.

  • Tuniau paent gwasg a chaeadau
  • Offer garddio
  • Padelli a sosbenni
  • Llestri
  • Nytiau a bolltau
  • Dolenni drws
  • Beiciau
  • Eitemau trydan