Gwasanaeth Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Bydd oedolion ym Mhowys yn gallu cysylltu â'r cyngor trwy ffonio CYMORTH ar 0345 602 7050.
Mae tîm CYMORTH yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar ystod eang o gymorth i bobl ym Mhowys dros ddeunaw oed.
"Gwnes i gysylltu â CYMORTH i ddod o hyd i weithgaredd dydd y gallwn i'w wneud yn fy nghadair olwyn ger fy nghartref. Gwnaethom ni ddod o hyd i glwb gwych gyda staff hyfryd."
Byddwch yn gallu cael hyd i wybodaeth am wasanaethau i bobl hŷn, nam ar y synhwyrau, anableddau dysgu neu gorfforol, lles, a diogelu oedolion.
Ar ben hyn gall y gwasanaeth gynnig gwybodaeth a chysylltiadau i frocer trydydd sector/Cysylltwr Cymunedol ar gyfer gwasanaethau'r sector gwirfoddol.
Felly os ydych chi'n chwilio am wybodaeth neu gyngor am ofal a chymorth oedolion yn eich ardal, ffoniwch CYMORTH ar 0345 602 7050.
"Fel gofalwr llawn amser, d'oes gen i ddim llawer o amser i fi fy hunan. Cysylltais CYMORTH ac fe wnaethon nhw gynnig asesiad gofalwr i mi.
Nawr, mae gen i amser ac ymunais chlwb rhedeg."
Cysylltwch â cymorth ar-lein yma Cysylltwch â CYMORTH ar-lein
Mae gwasanaeth tecstio newydd i oedolion sy'n fyddar neu'n colli clyw nawr yn fyw.
Erbyn hyn bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622.
Bydd y tîm yn ateb gyda gwybodaeth ar bethau megis asesiadau, technoleg gynorthwyol a'ch cyfeirio chi at grwpiau gwirfoddol a chlinigau.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau