Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Menter Cewynnau Go Iawn

O adeg ei eni nes y bydd yn dechrau defnyddio potyn bydd plentyn yn defnyddio tua phum mil o gewynnau ar gyfartaledd. Mae hyn yn cynhyrchu tunnell o ysbwriel bron! Mae casglu a chael gwared ar y clytiau yma'n cynyddu'r gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi ac yn costio trethdalwyr cannoedd o filoedd o bunnau bob blwyddyn. 
Image of some cloth nappies

Ond nid oes rhaid i bethau fod felly. Trwy newid i gewynnau go-iawn y gallwch chi eu hailddefnyddio gallwch chi helpu i arbed yr amgylchedd, arbed arian i drethdalwyr ac arbed ffortiwn fach i chi'ch hun!

Dros y blynyddoedd mae costau prynu cewynnau tafladwy'n cyfrif. Cymharwch hwn i ddefnyddio clytiau y gallwch eu hailddefnyddio. Mae pecynnau un tro'n costio cyn lleied â £250. Mae'r rhain yn cynnwys popeth fydd ei angen arnoch i bara o fabi newydd anedig i fabi sy'n dysgu i ddefnyddio potyn. Yn well fyth, gallwch chi ddefnyddio'r pecynnau hyn eto gyda babis yn y dyfodol os bydd eich teulu'n tyfu. Mae hynny'n golygu y gallwch chi arbed dros fil o bunnoedd ar gyfer teulu cyfan. Dydy hynny ddim yn ddrwg o gwbl!

Mae clytiau go-iawn modern yn hwylus, steilus ac yn ffasiynol. Maen nhw ar gael mewn amrywiaeth o batrymau, cynlluniau, meintiau a lliwiau gyda Velcro neu ffasnin clecio y gallwch ei osod yn iawn am y babi - maen nhw'n hawdd iawn i'w defnyddio.

Fel cymhelliad i newid i ddefnyddio cewynnau go iawn (amldro), mae Cyngor Sir Powys yn cynnig hyd at £100 o arian yn ôl (isafswm hawliad £50) (gweler yr amodau a'r telerau) yn erbyn prynu cewynnau go iawn, neu gyfuniad o gewynnau go iawn ac ategolion cewynnau go iawn.

I hawlio'r arian yn ôl, darllenwch yr amodau a'r telerau , gwnewch gais ar-lein neu, gwnewch gais ar-lein, neu mae ffurflen gais (PDF) [136KB] yna sy'n barod i'w hargraffullenwch y ffurflen a'i dychwelyd atom gyda chopïau o'r ddogfennaeth angenrheidiol.

Os cymeradwyir eich hawliad, byddwn yn anfon ffurflen taliad BACS i chi ei llenwi a byddwn yn talu'r swm yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc.

Caniatewch hyd at 6 wythnos rhwng derbyn y cais a'r taliad.

Gwnewch gais ar-lein Ffurflen Hawlio Menter Cewynnau Go Iawn

 

Oherwydd bod ein staff yn gweithio gartref, ni allwn dderbyn ceisiadau nad ydyn nhw'n rhai electronig. Ni allwn brosesu unrhyw ddogfennau a anfonir trwy'r post. Cyflwynwch eich holl ffurflenni a chopïau o ddogfennau gofynnol i waste.awareness@powys.gov.uk

Website accessibility checker icon
  Mae'r dogfennau pdf ar y dudalen hon yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd.