Amodau a Therelau Cynllun annog Defnyddio Cewynnau go Iawn
1. O dan y Cynllun Annog Defnyddio Cewynnau Go Iawn, mae Cyngor Sir Powys yn cynnig arian yn ôl (trwy daliad BAC yn unig) yn erbyn prynu cewynnau go iawn ac ategolion cewynnau go iawn. Ni ellir hawlio dim ond ar gyfer ategolion cewynnau go iawn a brynwyd. Nid yw cynhyrchion 'treialu' neu 'profi cyn prynu' y mae modd cael ad-daliad llawn neu rhannol amdanynt yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn. Nid yw costau postio a phecynnu ychwaith yn gymwys i'w had-dalu.
2. £50 yw'r isafswm gwerth y gellir hawlio amdano. £100 yw'r uchafswm. Bydd Cyngor Sir Powys yn pennu'r swm sy'n daladwy pan fydd yn adolygu'r hawliad.
3. Ni fydd hawliadau'n cael eu derbyn ond gan drigolion cymwys (gweler adran 4) Powys. Mae Cyngor Sir Powys yn cadw'r hawl i ofyn am dystiolaeth eich bod yn byw ym Mhowys os nad yw'n eglur o'r dogfennau ategol sy'n cael eu darparu fel rhan o'r hawliad, a gall wrthod talu os na roddir tystiolaeth pan ofynnir amdani.
4. Byddwn yn derbyn uchafswm o un hawliad ar gyfer yr un aelwyd, gan riant neu warcheidwad cyfreithlon sydd wedi'i enwi ar y dystysgrif geni neu MAT B1, oni bai fod cytundeb i'r gwrthwyneb.
5. Bydd hawliadau'n cael eu derbyn ar gyfer plant hyd at 18 mis yn unig, oni bai fod cytundeb i'r gwrthwyneb.
6. Rhaid darparu'r dogfennau ategol canlynol gyda'r hawliad (dim ond copïau i'w darparu, ni allwn ddychwelyd y dogfennau gwreiddiol i'r hawliwr):
A. Tystysgrif geni, ffurflen MAT B1 wedi'i llenwi (gweler adran 6.1).
B. Tystiolaeth pryniant (gweler adrannau 6.2, 6.3 a 6.4) cewynnau amldro, ac ategolion cewynnau amldro, os yn berthnasol.
6.1 Rhaid i'r Dystysgrif Geni neu'r MAT B1 a ddarperir fod yn ddarllenadwy, ac ni ddylai gynnwys cywiriadau.
6.2 Gall tystiolaeth o bryniant gynnwys derbynebau, anfonebau neu gadarnhad o archeb ar-lein gan fân-werthwyr stryd fawr neu ar-lein gwiriadwy, ond rhaid iddynt ddangos yn eglur mai cewynnau amldro a brynwyd (ynghyd ag ategolion cewynnau amldro, os yn berthnasol), a bod taliad llwyddiannus wedi'i wneud. Ni fyddwn yn derbyn dogfennau mewn llawysgrif/wedi'u teipio.
6.3 Rhaid i'r tystiolaeth o bryniant ddangos yn eglur ddyddiad y pryniant, ac ni ddylai'r dyddiad hwn fod mwy na 6 mis cyn y dyddiad y bydd Cyngor Sir Powys yn derbyn yr hawliad.
6.4 Gall cewynnau amldro ac ategolion ail law fod yn gymwys i'r cynllun, ond mae'n rhaid dangos tystiolaeth o bryniant sy'n cyd-fynd ag adrannau 6.2 a 6.3 yr un modd. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, cadarnhad o bryniannau eBay gyda derbynneb PayPal gysylltiedig, cyn belled â'u bod yn rhestru'r eitemau'n llawn.
7. Mae Cyngor Sir Powys yn cadw'r hawl i wrthod taliad os teimla nad yw unrhyw un o'r amodau uchod wedi'u bodloni.
8. Ni all Cyngor Sir Powys dderbyn cyfrifoldeb am golli unrhyw hawliad/dogfennau ategol waeth sut y digwydd hyn.