Toglo gwelededd dewislen symudol

Treth y Cyngor: Cosbau

Cais am wybodaeth

Mae gennym hawl yn ôl y gyfraith i gael gwybodaeth gan drigolion, perchnogion neu asiantiaid rheoli i'n helpu ni enwi'r sawl sy'n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor, ar yr amod ein bod yn gwneud hynny trwy lythyr.

Os na fyddwch yn ateb i gais, gallwch dderbyn dirwy o £50.  Os byddwch yn parhau i wrthod rhoi gwybodaeth, gallwch dderbyn dirwy bellach o hyd at £200.

 

Cyflwyno gwybodaeth ffug

Os byddwch o fwriad yn rhoi gwybodaeth sy'n anghywir, gallwch gael ddirwy o £50.

 

Newid mewn amgylchiadau

Gallwch gael dirwy o hyd at £50 os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni o fewn 21 diwrnod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau sy'n effeithio ar fil Treth y Cyngor ar ôl i chi ei dderbyn.  Dyma enghreifftiau o newidiadau y dylech sôn amdanynt:

  • Rydych yn hawlio disgownt i berson sengl ac mae rhywun arall wedi symud i mewn gyda chi.

  • Rydych yn derbyn eithriad ac nid ydych bellach yn ateb yr amodau angenrheidiol.

  • Rydych yn derbyn disgownt ac nid ydych bellach yn ateb yr amodau angenrheidiol.

Os ydych chi'n anghytuno â'r ddirwy a gawsoch, gallwch drafod y mater â ni'n gyntaf.  Neu, gallwch apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru,

Fel arfer, bydd gennych ddau fis i apelio ar ôl cael dirwy.  Byddwch yn derbyn gwybodaeth gan y cyngor ar sut i apelio a'r dyddiad y dylech anfon apêl.

Os ydych chi'n apelio, nid oes rhaid i chi dalu'r ddirwy tan y bydd penderfyniad wedi'i wneud.  Ond bydd rhaid i chi dalu Treth y Cyngor sy'n ddyledus.