Treth y Cyngor: Cosbau
Cais am wybodaeth
Mae gennym hawl yn ôl y gyfraith i gael gwybodaeth gan drigolion, perchnogion neu asiantiaid rheoli i'n helpu ni enwi'r sawl sy'n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor, ar yr amod ein bod yn gwneud hynny trwy lythyr.
Os na fyddwch yn ateb i gais, gallwch dderbyn dirwy o £50. Os byddwch yn parhau i wrthod rhoi gwybodaeth, gallwch dderbyn dirwy bellach o hyd at £200.
Cyflwyno gwybodaeth ffug
Os byddwch o fwriad yn rhoi gwybodaeth sy'n anghywir, gallwch gael ddirwy o £50.
Newid mewn amgylchiadau
Gallwch gael dirwy o hyd at £50 os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni o fewn 21 diwrnod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau sy'n effeithio ar fil Treth y Cyngor ar ôl i chi ei dderbyn. Dyma enghreifftiau o newidiadau y dylech sôn amdanynt:
Rydych yn hawlio disgownt i berson sengl ac mae rhywun arall wedi symud i mewn gyda chi.
Rydych yn derbyn eithriad ac nid ydych bellach yn ateb yr amodau angenrheidiol.
Rydych yn derbyn disgownt ac nid ydych bellach yn ateb yr amodau angenrheidiol.
Os ydych chi'n anghytuno â'r ddirwy a gawsoch, gallwch drafod y mater â ni'n gyntaf. Neu, gallwch apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru,
Fel arfer, bydd gennych ddau fis i apelio ar ôl cael dirwy. Byddwch yn derbyn gwybodaeth gan y cyngor ar sut i apelio a'r dyddiad y dylech anfon apêl.
Os ydych chi'n apelio, nid oes rhaid i chi dalu'r ddirwy tan y bydd penderfyniad wedi'i wneud. Ond bydd rhaid i chi dalu Treth y Cyngor sy'n ddyledus.