Gwahanol fathau o gyllid
Grant Cynnal Refeniw
Dyma'r prif grant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cyfrif am 51% o'n cyllideb. Mae'r swm a dderbyniwn wedi'i gyfrifo ar sail gwybodaeth fel poblogaeth, tlodi, milltiroedd o ffordd a pha mor wledig/drefol yw'r ardal. Y cyngor sy'n penderfynu sut i wario'r arian yma, yn unol â'i flaenoriaethau.
Ardrethi Busnes
Treth eiddo sy'n cael ei thalu ar eiddo busnes ac eiddo annomestig arall. Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ar ba gyfradd y bydd yr ardrethi'n cael eu talu. Bydd Cynghorau'n casglu'r arian ac yn ei dalu i Lywodraeth Cymru, ac yna'n ailddosbarthu'r arian i'r holl gynghorau yng Nghymru, yn ôl eu poblogaeth.
Grantiau at ddibenion penodol
Arian a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru neu sefydliadau amrywiol eraill yw hwn, ac mae'n rhaid i'r cyngor ei wario ar rywbeth penodol, yn unol â blaenoriaethau y sefydliad hwnnw. Er enghraifft, gallai hyn fod yn arian ar gyfer adeiladau ysgol newydd, cludiant neu dai.
Treth y Cyngor
Bydd trigolion lleol yn talu treth y cyngor. Mae'r swm a dalwch yn dibynnu ar fand eich tŷ, sydd wedi'i seilio ar werth y tŷ. Mae'r cyngor yn penderfynu ar lefel y dreth gyngor a godir ac mae hyn yn cyfrannu 32% at ein cyllid cyffredinol.
Cynhyrchu incwm
Byddwn hefyd yn derbyn incwm o'r ffioedd a godwn am rai o nwyddau a gwasanaethau'r cyngor, er enghraifft, parcio ceir, trwyddedau a chaniatâd cynllunio.
Cyllideb Cyfalaf
Mae'n rhaid i'r cyngor roi cyfrif am ei fuddsoddiad yn ei asedau sefydlog (cyfalaf) ar wahân i gostau rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd (refeniw). Pethau a fydd yn parhau am amser maith, fel adeiladau, ffyrdd, ysgolion, cerbydau, cyfarpar technoleg gwybodaeth ac ati, yw'r asedau sefydlog. Bydd prosiectau cyfalaf yn prynu, ailwampio ac y datblygu asedau er mwyn iddynt barhau i gael eu defnyddio yn y dyfodol. Gwariant un-tro yw hyn fel arfer, ac mae'n arwain at adeiladu neu wella ased fel adeilad. Ariennir y gyllideb hon gan Grant Cyfalaf neu drwy fenthyca.