Sut rydym yn gwario ein harian
Fel cyngor, rydym am roi gwybod i chi am ein harian. Bob blwyddyn mae'n ofynnol dan y gyfraith ein bod yn gosod cyllideb gytbwys, ond mae hyn yn mynd yn fwyfwy anodd. Mae llawer o bethau yn effeithio ar ein cyllideb felly mae'r dudalen hon yn ceisio egluro a helpu pobl i ddeall o ble y cawn ein harian a sut rydym yn ei wario.
Rydym yn un o'r cyflogwyr mwyaf ym Mhowys, gan ddarparu cannoedd o wasanaethau i bron 60,000 o aelwydydd ar draws 2,000 milltir sgwâr (sef chwarter o arwynebedd tir Cymru!).
Ymhlith y gwasanaethau hyn mae:
- Gofal cymdeithasol
- Ysgolion
- Adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd, parciau a seilwaith arall
- Gwasanaethau cynllunio a rheoli adeiladu
- Casgliadau gwastraff
- Iechyd yr Amgylchedd
- Llyfrgelloedd
- ... a llawer mwy!
Byddwn yn derbyn ein harian mewn tair ffordd, sef:
- Gan Lywodraeth Cymru
- Yr incwm a godwn (trwy ffioedd a thaliadau)
- Treth y cyngor
Daw 70% enfawr o'n harian gan Lywodraeth Cymru a fel pob sefydliad sector cyhoeddus, rydym yn rheoli ein hadnoddau'n ofalus ac yn ceisio gwneud mwy gyda llai o arian. Ond, mae llawer o ffactorau yn cael effaith ar ein cyllideb. Mae rhai o'r rhain yn cynnwys: strwythurau gwleidyddol sy'n newid, deddfwriaeth newydd, gofynion gwasanaethau, cyflwr yr economi, demograffeg, a digwyddiadau na allwn eu rhagweld.
Mae yna heriau anodd o'n blaen, ond ni allwn golli golwg ar yr amrediad eang o wasanaethau gwerthfawr a ddarparwn a'r camau breision ry'n ni'n eu cymryd i drawsnewid y sefydliad.
Rhaid i ni barhau i fuddsoddi mewn rhai prosiectau allweddol fel ysgolion a thai newydd gyda chymorth grantiau Llywodraeth Cymru. Rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o gynhyrchu incwm, rhannu gwasanaethau gyda phartneriaid lle bynnag bosib, sbarduno mentrau effeithlonrwydd, a hyrwyddo popeth sydd gan ein sir unigryw a hardd i'w gynnig!
Efallai y bydd rhai pobl yn gofyn sut y gallwn fforddio gwario arian ar ddatblygiadau newydd pan fyddwn yn torri'r cyllid mewn meysydd eraill, felly dyma ddarn cyflym o'r gwahanol fathau o gyllido a gawn, a'r hyn y defnyddir ar eu cyfer