Toglo gwelededd dewislen symudol

Drosolwg cyflym

Ffeithlun ar y gyllideb
Bob blwyddyn rydyn ni'n darparu cannoedd o wasanaethau i 132 o filoedd o drigolion a 58 o filoedd o aelwydydd.

Ariennir ein gwasanaethau mewn 3 ffordd:

  1. Treth y cyngor
  2. Incwm o ffioedd a thaliadau
  3. Grantiau gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu 70% o'n hincwm, ond maen nhw'n torri ein cyllideb. 

Ar yr un pryd, mae'r gost o ddarparu ein gwasanaethau wedi cynyddu'n sylweddol, yn ogystal â'r galw amdanynt.

Mae hyn yn achosi bwlch yn y gyllideb! 

Mae'r bwlch yn y gyllideb yn golygu toriadau o ....

£100m dros y ddegawd ddiwethaf

Felly sut allwn ni lenwi'r bwlch?

Trwy gynyddu ein lefelau incwm a lleihau'r maint rydyn ni'n ei wario.

Felly, beth rydyn ni'n ei wneud?

  • Rydym yn newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau ac yn chwilio am wahanol ffyrdd i arbed arian.
  • Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn rhai prosiectau pwysig iawn, fel trawsnewid ysgolion a phrosiectau tai.

Mae newid yn anochel, ond byddwn yn cadw trigolion wrth galon popeth rydyn ni'n ei wneud!

Lawrlwythwch y ffeithlun yma (PDF) [657KB]

Website accessibility checker icon
   Mae'r dogfennau pdf ar y dudalen hon yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd.