Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cofrestru Loterïau a Chymdeithasau Bach - nodiadau canllaw

 

Mae loteri neu raffl neu dynnu tocynnau yn fath o gamblo sydd â thair elfen hanfodol:

  • rhaid talu i gymryd rhan
  • mae cyfle i ennill un neu fwy o wobrau
  • trwy hap a damwain rydych yn ennill y gwobrau hynny

Ni ellir cynnal loterïau er budd preifat neu fasnachol

 

Eithriadau

Mae 'na loterïau sydd ddim angen trwydded na chofrestru, sef::

(1) loterïau anfasnachol achlysurol - fel arfer yn cael eu cynnal yn ystod digwyddiadau codi arian. Dim ond yn y lleoliad dan sylw ac yn ystod y digwyddiad y gallwch werthu tocynnau. Mae modd cyhoeddi'r canlyniad yn ystod y digwyddiad neu ar ôl iddo ddod i ben. Argymhellir bod trefnwyr y loteri'n ei wneud yn glir pryd fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi a bod y canlyniad yn cael ei gyhoeddi yn ystod y digwyddiad.

(2) loterïau preifat

  • loterïau cymdeithasau preifat - dim ond aelodau'r gymdeithas a'r rhai sydd ar eiddo'r gymdeithas sy'n gallu cymryd rhan yn y loteri
  • loterïau gwaith - dim ond pobl sy'n gweithio gyda'i gilydd ar yr un safle sy'n gallu cymryd rhan
  • loterïau trigolion - dim ond pobl sy'n byw yn yr un safle sy'n gallu cymryd rhan.

(3) loterïau cwsmeriaid - dim ond cwsmeriaid yn y safle busnes sy'n gallu cymryd rhan.

 

Loterïau Cymdeithasau Bach

Loterïau Cymdeithasau yw'r rhai sy'n cael eu hyrwyddo er budd cymdeithas anfasnachol. Mae cymdeithasau o'r fath yn fudiadau sydd â nodau ac amcanion pendant ac yn ateb y diffiniad o gymdeithas anfasnachol yn ôl y Ddeddf.

Cymdeithas anfasnachol yw cymdeithas sydd wedi'i sefydlu a'i gynnal:

  • er dibenion elusennol
  • er mwyn galluogi pobl i gymryd rhan neu gefnogi digwyddiadau chwaraeon, athletau neu ddiwyllianno
  • ar gyfer unrhyw ddiben anfasnachol arall heblaw budd preifat.

Ni ddylai'r enillion o un loteri neu raffl unigol fod dros £20,000, ac ni ddylai'r enillion mewn un flwyddyn gyda'i gilydd fod dros £250,000. Os ydych chi'n aelod o gymdeithas neu glwb sydd am gynnal loterïau neu rafflau cyson, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'r awdurdod trwyddedu lleol i gynnal loteri cymdeithasau bach.

 

Cyfyngiadau ar Loterïau Cymdeithasau Bach

  • Rhaid defnyddio o leiaf 20% o enillion y loteri er dibenion y gymdeithas
  • Ni ddylai unrhyw un wobr unigol fod dros £25,000
  • Dylai pris pob tocyn fod yr un fath a rhaid talu cyn tynnu'r gwobrau. Nid oes uchafswm ar bris tocyn

 

Gwybodaeth ar docynnau

Rhaid i docynnau gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • enw'r gymdeithas y mae'r loteri'n cael ei hyrwyddo ar ei rhan
  • pris y tocyn
  • enw a chyfeiriad aelod o'r gymdeithas sy'n gyfrifol am hyrwyddo'r loteri
  • dyddiad tynnu'r gwobrau

Ni ddylai unrhyw un dan 16 oed werthu na phrynu tocynnau loteri.

 

Gwneud Cais

  • Os ydych chi'n aelod o gymdeithas fach ac am wneud cais i gofrestru loteri, rhaid i chi gyflwyno cais i gofrestru gyda'r awdurdod lle mae prif swyddfa'r gymdeithas.
  • Mae'r un rheolau'n berthnasol lle bynnag mae'r gymdeithas.
  • Ar gyfer ceisiadau ym Mhowys, defnyddiwch y ffurflen gais y gallwch ei lawrlwytho o'r ddolen hon a'i dychwelyd i'r swyddfa ardal berthnasol gyda ffi o £40. Gallwch anfon siec yn daladwy i 'Cyngor Sir Powys' neu alw'r swyddfa dan sylw i dalu dros y ffôn
  • Ar ôl derbyn a phrosesu'r cais, byddwch yn derbyn Tystysgrif Cofrestru Loteri Cymdeithasau Bach.
  • Wrth ystyried cais, bydd yr awdurdod yn penderfynu a yw'r gymdeithas yn un anfasnachol neu beidio.

 

Ffi Flynyddol

Ar ddiwedd blwyddyn o fod wedi cofrestru, os yw'r gymdeithas am barhau i gofrestru, rhaid talu'r ffi flynyddol sydd ar hyn o bryd yn £20, o fewn dau fis o'r dyddiad y cofrestrwyd gyntaf. Byddwn yn atgoffa'r Gymdeithas pan fydd yn bryd talu.

 

Ffurflenni

Rhaid i bob cymdeithas sydd wedi cofrestru ag awdurdod lleol i gynnal loteri cymdeithasau bach, anfon y wybodaeth ganlynol:

  • dyddiad dechrau gwerthu neu gyflenwi'r tocynnau a dyddiad y loteri/raffl.
  • the total proceeds of the lottery (remote and non remote)
  • symiau a dynnwyd gan hyrwyddwyr y loteri ar gyfer gwobrau, gan gynnwys symiau sy'n cael eu trosglwyddo ymlaen at y tro nesaf.
  • symiau a dynnwyd gan hyrwyddwyr y loteri ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â threfnu'r loteri.
  • y swm a drosglwyddwyd yn uniongyrchol at ddibenion y gymdeithas sy'n hyrwyddo'r loteri, neu sydd gan yr awdurdod lleol bŵer i dynnu gwariant wrtho (o leiaf 20% o'r enillion gros).
  • os na dalwyd am unrhyw gostau sy'n deillio o gynnal y loteri allan o'r enillion, faint oedd y costau ac o ba ffynonellau y talwyd y costau.

 

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma