Toglo gwelededd dewislen symudol

Adroddiad gorfodol bwlch cyflog rhwng y rhywiau 2017

Mae'r cyngor yn credu mewn creu gweithlu amrywiol sy'n gytbwys o ran rhywedd ac yn adlewyrchu'r trigolion a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae gennym fwlch cyflog cymedrig o 10.72% rhwng y rhywiau (cyfartaledd) a bwlch cyflog canolrifol (canol) o 10.22% rhwng y rhywiau.

R ydym yn credu mewn cyfleoedd swyddi i bawb, waeth beth fo'u rhywedd, a byddwn yn ein herio ein hunain i fod yn fwy cynhwysol fel sefydliad cyhoeddus. Rydym yn awyddus i greu diwylliant sy'n wirioneddol gynhwysol ac i fod yn onest am y problemau rydym ni ac eraill yn eu hwynebu yn ein gwaith o ddydd i ddydd.

Rydym wedi ymrwymo i ddulliau asesu trylwyr ar sail cymhwysedd sy'n scirhau bod pob penodiad a dyrchafiad mewnol yn cael ei wneud ar sail teilyngdod yn unig, o'u cymharu â meini prawf gwrthrychol ac anwahaniaethol.

Mae llawer i'w wneud o hyd, ac mae ein hadroddiad yn dwyn sylw at raddfa'r her a wynebwn. Fodd bynnag, mae'r cyngor wedi ymrwymo'n llwyr i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.