Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Diben

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Cyngor Sir Powys (CSP) ('ni') yn casglu, defnyddio a rhannu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion darparu gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas ag oedolion.

Pwy ydym ni a sut ellir cysylltu â ni?

Cyngor Sir Powys
Neuadd y Sir
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

Ebost: assist@powys.gov.uk

Ffôn: 01597 826000

Swyddog Diogelu Data (SDD):

Gellir cysylltu â'r SDD ar gyfer CSP ac Ysgolion Powys drwy ebost ar information.compliance@powys.gov.uk.

Pa wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei phrosesu amdanoch?

Bydd Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn storio unrhyw fanylion sy'n ymwneud â'ch sefyllfa mewn ffordd a fydd yn ein helpu i'ch cefnogi i ddiwallu eich anghenion gofal a chymorth, a/neu eich teulu, yn ogystal â'n cyfrifoldebau o ran amddiffyn oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.

Gall GCO gael y categorïau canlynol o'ch data personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Manylion Cyswllt
  • Rhif Yswiriant Gwladol

Gallwn hefyd gael a chadw gwybodaeth fwy penodol, gan gynnwys:

  • Manylion am eich anghenion gofal a chymorth
  • Gwybodaeth am aelodau eraill o'ch cartref
  • Manylion perthnasau teuluol yn eich cartref a'r tu allan i'ch cartref
  • Enwau a manylion cyswllt eich perthnasau agos a/neu ofalwyr
  • Gwybodaeth a ddefnyddir i asesu eich sefyllfa, megis asesiadau ac adroddiadau
  • Pethau y mae sefydliadau eraill (megis iechyd, ysgolion neu gartrefi gofal) yn dweud wrthym i'n helpu i ddeall eich sefyllfa a'ch anghenion a chydlynu eich gwasanaethau gofal yn fwy effeithiol
  • Recordiadau o unrhyw ymweliadau neu gysylltiad a wnaethoch, neu a wnaethom ni gyda chi
  • Unrhyw anghenion ychwanegol neu anabledd
  • Gwybodaeth ariannol
  • Manylion eich iechyd meddwl a'ch galluedd
  • Manylion am eich iechyd corfforol
  • Manylion am eich llesiant
  • Manylion am eich canlyniadau personol
  • Manylion am eich ffordd o fyw
  • Manylion am eich ymgysylltiad â GCO
  • Diwylliant, crefydd/ cred
  • Cofnod troseddol
  • Cyfiawnder adferol
  • Honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod tuag atoch
  • Honiadau neu bryderon a godwyd ynghylch eich ymddygiad neu bryderon diogelu gennych chi am eraill.
  • Math(au) Anabledd
  • Categorïau Diogelu
  • Mathau o Ofal a Chymorth a Dderbyniwyd
  • Cyfrifoldebau gofalu

Ffynhonnell y data personol:

  • Chi
  • Eich cynrychiolydd/ eiriolwr/ cynrychiolydd cyfreithiol
  • Eich teulu
  • Heddlu
  • Awdurdodau iechyd
  • Awdurdodau addysg
  • Awdurdodau lleol eraill
  • Cymdeithasau tai/ landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
  • Cyrff rheoleiddio, megis Arolygiaeth Gofal Cymru/ Arolygiaeth Iechyd Cymru
  • Asiantaethau Partner
  • Gweithwyr meddygol proffesiynol/ ymarferwyr cyffredinol
  • Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Aelodau o'r cyhoedd
  • Asiantaethau Gofal Cartref
  • Cartrefi Gofal a Nyrsio Preswyl
  • Gwasanaeth Erlyn Cenedlaethol
  • Ystadau Diogel (carchardai)
  • Eraill (gan gynnwys gweithwyr proffesiynol/ gwirfoddolwyr/ gofalwyr) a allai fod yn gysylltiedig â'ch gofal
  • Eich cyflogwr

Y dibenion y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar eu cyfer:

Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i chi, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill a sefydliadau gwirfoddol. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn hefyd yn cynnwys prosesu gwybodaeth bersonol sy'n digwydd gan Dîm Adborth Cwsmeriaid y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn gwella ein gwasanaethau.

Gyda phwy y gallem rannu eich gwybodaeth bersonol?

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth gyda sefydliad os oes ei hangen arnynt i wneud eu gwaith, neu os yw'r gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny, er enghraifft:

  • Sefydliadau partner sy'n darparu gwasanaethau gofal a chymorth
  • Os bydd Llys yn gorchymyn ein bod ni'n darparu'r wybodaeth
  • Cyrff rheoleiddio (fel AGC/AGIC) sy'n arolygu ac yn monitro ein gwaith
  • Casgliad data Llywodraeth Cymru (LlC) Oedolion sy'n Derbyn Gofal a Chymorth (ODGCh).
  • Sefydliadau fel yr heddlu, gwasanaethau iechyd, addysg a phartneriaid trydydd sector sy'n gweithio ar y cyd â ni i ddarparu gwasanaethau ac amddiffyn unigolion.
  • Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol cyfnewid.

Y Sail Gyfreithiol (Beth sy'n caniatáu i ni brosesu eich data personol):

Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni nodi pa sail gyfreithiol y dibynnir arni er mwyn prosesu eich data personol.

Mae GCO wedi ystyried seiliau cyfreithiol priodol dros gasglu a phrosesu eich data. Mae angen eich gwybodaeth bersonol er mwyn i ni allu cyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol.

Mewn rhai achosion, gallai hyn arwain at ofyniad cyfreithiol i wybodaeth gael ei darparu a'i chasglu. Os byddwch yn gwrthod darparu'r data sydd ei angen arnom, gallai hyn olygu na fydd modd i ni ddarparu gwasanaethau i chi. Mae rhai o'r darnau allweddol o ddeddfwriaeth y mae GCO yn gweithio o'u mewn yn cynnwys:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983
  • Deddf Iechyd Meddwl - Cod Ymarfer Cymru
  • Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
  • Rheoliadau Lleoli Oedolion 2019

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol?

Bydd GCO yn cadw eich gwybodaeth am beth amser ar ôl i ni roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau i chi. Nodir y Cyfnodau Cadw yn Atodlen Cadw Corfforaethol y Cyngor. Ar ddiwedd y cyfnod cadw, bydd y wybodaeth yn cael ei dileu.

Rhagor o Wybodaeth:

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data personol, yr hawliau sydd gennych hawl i'w hymarfer fel yr hawl mynediad, a manylion cyswllt y comisiynydd, ewch i'n hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yma:  Diogelu Data a Phreifatrwydd

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu