Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion

Diben

Datblygwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn gan wasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion (ASC) Cyngor Sir Powys (y Cyngor), er mwyn sicrhau ei fod yn dryloyw wrth gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol.

Bydd cofnod yn cael ei gadw am unrhyw un sy'n derbyn gwasanaeth gan ASC. Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i chi, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill a sefydliadau gwirfoddol. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn hefyd yn cynnwys y prosesu gwybodaeth bersonol y bydd Tîm Adborth Cwsmeriaid y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gyflawni er mwyn gwella ein gwasanaethau.

Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, pam rydym yn ei chasglu a sut rydym yn ei chadw'n ddiogel. Mae hefyd yn egluro eich hawliau chi a'n rhwymedigaethau cyfreithiol ni.

Y Sail Gyfreithiol

Mae ASC wedi ystyried seiliau cyfreithlon priodol ar gyfer casglu a phrosesu eich data. Mae angen eich gwybodaeth bersonol arnom er mwyn i ni allu cyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol ac arfer ein dyletswyddau swyddogol.

Mewn ambell achos, gall hyn arwain at ofyniad cyfreithiol i ddarparu a chasglu gwybodaeth. Os byddwch yn gwrthod darparu'r data sydd ei angen arnom, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu darparu gwasanaethau i chi. Ymhlith y rhannau allweddol o ddeddfwriaeth y mae ASC yn gweithio oddi tanynt mae'r canlynol:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983
  • Cod Ymarfer Deddf Iechyd Meddwl Cymru
  • Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (i gael eu disodli'n fuan gan y Mesurau Diogelu rhag Rhyddid)
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Pa wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi

Bydd ASC yn defnyddio ac yn storio unrhyw fanylion sy'n ymwneud â'ch sefyllfa mewn ffordd a fydd yn ein cynorthwyo i'ch cefnogi chi i ddiwallu eich anghenion gofal a chymorth chi a'ch / neu'ch teulu, yn ogystal â'n cyfrifoldebau o ran amddiffyn oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.

Categorïau o ddata personol a gafwyd

Gall ASC gael y categorïau canlynol o'ch data personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Manylion Cyswllt
  • Rhif Yswiriant Gwladol

Efallai y byddwn hefyd yn casglu ac yn cadw gwybodaeth fwy penodol, gan gynnwys:

  • Manylion am eich anghenion gofal a chymorth
  • Gwybodaeth am aelodau eraill o'ch aelwyd
  • Manylion perthnasoedd teuluol ar eich aelwyd a'r tu allan iddi
  • Enwau a manylion cyswllt eich perthnasau a/neu ofalwyr agos
  • Gwybodaeth a ddefnyddir i asesu eich sefyllfa, fel asesiadau ac adroddiadau
  • Pethau y mae sefydliadau eraill (fel iechyd, ysgolion neu gartrefi gofal) yn eu dweud wrthym i'n helpu i ddeall eich sefyllfa a'ch anghenion a chydlynu eich gwasanaethau gofal yn fwy effeithiol
  • Recordiadau o unrhyw ymweliadau neu gyswllt rydych wedi'u gwneud, neu rydym wedi'u gwneud gyda chi
  • Unrhyw anghenion ychwanegol neu anabledd
  • Gwybodaeth ariannol
  • Manylion eich iechyd meddwl a'ch gallu meddyliol
  • Manylion eich iechyd corfforol
  • Manylion eich lles
  • Manylion eich canlyniadau personol
  • Manylion am eich ffordd o fyw
  • Manylion am eich ymgysylltiad ag ASC
  • Diwylliant, crefydd / cred
  • Cofnod troseddol
  • Cyfiawnder adferol
  • Honiadau o gam-drin neu esgeulustod tuag atoch chi
  • Honiadau neu bryderon a godwyd ynghylch eich ymddygiad neu bryderon diogelu chi am eraill.

Ffynhonnell y data personol

  • Chi
  • Eich cynrychiolydd / eiriolwr / cynrychiolydd cyfreithiol
  • Eich teulu
  • Heddlu
  • Awdurdodau iechyd
  • Awdurdodau addysg
  • Awdurdodau lleol eraill
  • Cymdeithasau tai/ landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
  • Cyrff rheoleiddio, megis Arolygiaeth Gofal Cymru/ Arolygiaeth Iechyd Cymru
  • Asiantaethau Partner
  • Gweithwyr proffesiynol meddygol/ Meddygon Teulu
  • Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Aelodau o'r cyhoedd
  • Asiantaethau Gofal Cartref
  • Cartrefi Gofal Preswyl a Nyrsio
  • Gwasanaeth Erlyn Cenedlaethol
  • Ystadau Diogel (carchardai)
  • Eraill (gan gynnwys gweithwyr proffesiynol/ gwirfoddolwyr/ gofalwyr) a allai fod yn rhan o'ch gofal
  • Eich cyflogwr

A yw'r Wybodaeth Bersonol yn cael ei rhannu ag unrhyw un arall?

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth yn unol â'n tasgau a'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth â sefydliad os bydd ei hangen arno i wneud ei waith, neu pan fo'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol neu'n caniatáu i ni wneud hynny, er enghraifft:

  • Sefydliadau partner sy'n darparu gwasanaethau gofal a chymorth
  • Os yw llys yn gorchymyn ein bod yn darparu'r wybodaeth
  • Cyrff rheoleiddio (fel AGC) sy'n arolygu ac yn monitro ein gwaith
  • Sefydliadau fel yr heddlu, iechyd, gwasanaethau addysg a phartneriaid yn y trydydd sector sy'n gweithio ar y cyd â ni i ddarparu gwasanaethau a diogelu unigolion.
  • Cyrff eraill sy'n cynorthwyo neu'n cael eu contractio gan ASC i ddarparu gwasanaethau gofal fel CREDU, sy'n gweithredu fel prosesydd i'r Cyngor - h.y., maen nhw'n gweithio o dan ein cyfarwyddyd.

Cadw Gwybodaeth Bersonol

Bydd ASC yn cadw eich gwybodaeth am beth amser nodi yn Rhestr Cadw Corfforaethol y Cyngor. Ar ôl y cyfnod hwn mae cofnodion yn cael eu dinistrio'n ddiogel.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r Cyngor yn defnyddio data personol, ac i ddarganfod beth yw eich hawliau diogelu data, ewch i hysbysiad preifatrwydd y Cyngor yma: Diogelu Data a Phreifatrwydd