Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi
System archebu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi a ffioedd ar gyfer cael gwared ar wastraff DIY
Rhybudd pwysig am Wastraff Cymysg: Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o ailgylchu yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff o'r Cartref mae'r Cyngor yn gweithredu polisi 'dim gwastraff cymysg'. Mae hyn yn golygu fod angen i drigolion didoli eu gwastraff cyn ymweld â'r safleoedd, gan gael gwared ar yr holl ddeunyddiau y mae modd eu hailgylchu. Bydd staff y safle yn gofyn i unrhyw un sy'n dod â gwastraff cymysg i'r canolfannau ailgylchu i'w ddidoli ar y safle.
Os ydych chi'n dod â gwastraff gweddilliol o gasgliad ymyl y ffordd a gollwyd, cofiwch y gellir ailgylchu llawer mwy o ddeunyddiau megis ffilm blastig ac offer trydanol, yn yr HWRCs na thrwy eich casgliad ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol. Rhaid hefyd sortio'r eitemau hyn i'r gwahanol gynwysyddion ailgylchu ar y safle a pheidio â'u cynnwys mewn unrhyw fagiau sbwriel gweddilliol.
Gweler y canolfannau unigol isod i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n ddisgwyliedig gennych cyn teithio i'r canolfannau: