Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor a Gwybodaeth

Cronfa'r Teulu Mae Cronfa'r Teulu'n darparu grantiau i deuluoedd ar incwm isel sy'n magu plant a phobl ifanc anabl a difrifol wael

Autism Wales Y wefan genedlaethol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistaidd (ASD). Fan hyn fe welwch wybodaeth am Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistaidd (gan gynnwys Awtistiaeth a Syndrom Asperger, manylion gwasanaeth, cyfleoedd hyfforddi a diweddariadau ar weithredu Cynllun Gweithredu  Strategol ASD i Gymru.

Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar Hon yw'r brif elusen ar gyfer plant byddar. Maent yma ar gyfer pob plentyn byddar sydd eu hangen - ni waeth pa mor fyddar ydynt, neu pa fath o drymder clyw sydd ganddynt, neu sut maent yn cyfathrebu.

Dewis Cymru Dewis Cymru yw'r lle ar gyfer wybodaeth am les yng Nghymru. Mae ganddynt wybodaeth a all eich helpu i feddwl am yr hyn sydd o bwys i chi. Hefyd maent yn cynnig gwybodaeth am sefydliadau lleol a gwasanaethau a all helpu.

Sefydliad Syndrom Down Maent yn gallu cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor ar unrhyw gwestiwn neu bryder sydd gennych mewn perthynas â Syndrom Down

Makaton Rhaglen iaith yw Makaton sy'n defnyddio arwyddion a symbolau i helpu pobl i gyfathrebu. Fe'i dyluniwyd i gefnogi iaith lafar ac mae'r arwyddion a'r symbolau'n cael eu defnyddio ar lafar - yn nhrefn geiriau llafar

Anabledd Dysgu Cymru Maent am greu Cymru sy'n gwerthfawrogi ac yn cynnwys pob plentyn, unigolyn ifanc ac oedolyn sydd ag anabledd dysgu 

Anabledd Cymru Mae Anabledd Cymru'n bodoli i hyrwyddo hawliau cydraddoldeb ac annibyniaeth pawb sy'n anabl yng Nghymru 

Mencap Cymru Mae Mencap Cymru'n rhoi cyngor a gwybodaeth i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan anabledd dysgu 

Mind Cymru Mae Mind Cymru'n cynnig cyngor a chymorth i roi grym yn nwylo unrhyw un sy'n cael profiad o broblem iechyd meddwl

Cyngor ar Bopeth Gwybodaeth gynhwysfawr am eich hawliau 

DIAL UK (Llinell Cyngor a Gwybodaeth am Anableddau) Gwybodaeth gyffredinol ar gyfer pobl anabl gyda thudalen dolenni hynod o ddefnyddiol

Buddion a Gwaith Gwefan annibynnol sy'n rhoi gwybodaeth lle gallwch weld a ydych yn gymwys i dderbyn budd-daliadau penodol 

Y Gymdeithas Awtistiaeth Darparwr mwyaf y Deyrnas Unedig o wasanaethau awtistiaeth arbenigol yw'r sefydliad hwn.

NHS - Gweithio i Wella Hwn yw'r proses ar gyfer rheoli pryderon am Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru

Rôl y GIG o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol

Newid i Wella Mae Prosiect Newid i Wella'n rhedeg ledled Cymru ar hyn o bryd i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 -25 oed sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i gael lleoliadau gwaith cyflogedig sy'n para chwech i ddeuddeg mis

Blynyddoedd Cynnar Cymru Blynyddoedd Cynnar Cymru yw'r sefydliad mwyaf yng Nghymru sy'n gofalu am fudiadau eraill ac yn cefnogi amrywiaeth o wasanaethau aelodaeth cynhwysfawr i sector y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru. Ei phrif weithgarwch yw gwella a chyfoethogi datblygiad ac addysg plant cyn-ysgol yng Nghymru. Maent yn gwneud hyn trwy annog rhieni i ddeall a darparu ar gyfer eu hanghenion trwy ddarpariaeth a gofal plant cyn-ysgol o'r radd flaenaf.

Contact Mae Contact yn cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth i deuluoedd gyda phlant anabl, ni waeth beth fo'u hanhwylder neu eu hanabledd

SNAP Cymru Mae SNAP Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, plant a phobl ifanc sydd â - neu gallai fod ag - anghenion addysg arbennig neu anableddau