Toglo gwelededd dewislen symudol

Toiledau ym Mhowys

Diffiniad: cyfleuster yw toiled cyhoeddus y gall y cyhoedd ei ddefnyddio a all fod mewn perchnogaeth gyhoeddus neu breifat, o fewn amrywiaeth o eiddo ac nad yw'n ofynnol i'r defnyddiwr fod yn gwsmer neu i brynu rhywbeth

Lansiwyd Strategaeth Toiledau Cyhoeddus gan Gyngor Sir Powys ym mis Mai 2019. Diweddarwyd hwn ym mis Mai 2023.

Toilet Logo

Nod y strategaeth yw cynnal a gwella mynediad at doiledau cyhoeddus mewn nifer o ffyrdd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, yn enwedig gyda chynghorau tref a chymuned (mae nifer ohonynt eisoes yn rhedeg nifer o doiledau ar draws y sir) a chyda busnesau adwerthu (nifer ohonynt sydd eisoes yn cynnig toiledau i gwsmeriaid).

Mae rhai o'r camau gweithredu yn cynnwys:

  • Bellach, mae toiledau ar gael i'w defnyddio mewn ardaloedd hygyrch yn Adeiladau Cyngor Sir Powys
  • chwilio i weithio gyda chaffis cyhoeddus a busnesau o'r math adwerthu i hyrwyddo'r ymgyrch "Defnyddio ein Toiledau"
  • Gwybodaeth ynglŷn â chanllawiau am ddarpariaeth o doiledau sydd ar gael mewn digwyddiadau dros dro
  • buddsoddi mewn ffyrdd i ddefnyddio cytundebau Adran 106 er mwyn darparu cyfleusterau toiledau petai cwmni i adeiladu cyfleuster cymunedol/o fath adwerthu mewn tref ym Mhowys
  • hybu cyfleusterau lleoedd newid a babanod (https://www.changing-places.org/find)
  • cyhoeddi gwybodaeth am leoliadau cyfleusterau, oriau agor, y math o ddarpariaeth ac ati.

Edrych ar ein strategaeth (PDF) [2MB]

Mae Cyngor Sir Powys wedi ymgymryd ag adolygiad o'r Strategaeth Doiled Leol a gafodd ei chyhoeddi yn 2019. Gallwch weld yr adolygiad fan hyn:  Strategaeth Toiledau Lleol Datganiad Cynnydd Interim 2023 (PDF) [188KB]

Er y cafwyd cynnydd i nifer o feysydd allweddol, mae'r adolygiad hwn wedi dynodi'r angen am ddatblygiad pellach, ac felly bydd strategaeth 2019 bellach yn cael ei hadolygu a'i datblygu ymhellach. 

Dod o hyd i doiledau cyhoeddus. Noder: Mae'r daenlen sy'n cyflwyno gwybodaeth am doiledau ym Mhowys wedi'i chasglu fel rhan o ymarferiad ymgynghori ac roedd yn gywir ar adeg argraffu. Fe fydd yn cael ei diweddaru fel rhan o'r broses adolygu.

Gwefan Lle Llywodraeth Cymru https://gov.wales/toilets

Cymdeithas Toiledau Prydain http://www.btaloos.co.uk/

Changing Places https://www.changing-places.org/find

Cylch Gorchwyl Llywodraeth Cymru:

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ap symudol (cymhwysiad) a fydd yn mapio'r holl ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yng Nghymru. Edrychwch yma am ragor o wybodaeth.

Gostyngiad treth annomestig. O'r 1 Ebrill 2020, bydd toiledau cyhoeddus unigol yn gweld gostyngiad yn eu biliau trethi i sero. Edrychwch ar: https://gov.wales/written-statement-non-domestic-rates-relief-public-lavatories

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu