Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Toiledau ym Mhowys

Diffiniad: cyfleuster yw toiled cyhoeddus y gall y cyhoedd ei ddefnyddio a all fod mewn perchnogaeth gyhoeddus neu breifat, o fewn amrywiaeth o eiddo ac nad yw'n ofynnol i'r defnyddiwr fod yn gwsmer neu i brynu rhywbeth

Lansiwyd Strategaeth Toiledau Cyhoeddus gan Gyngor Sir Powys ym mis Mai 2019. Diweddarwyd hwn ym mis Mai 2023.

Toilet Logo

Nod y strategaeth yw cynnal a gwella mynediad at doiledau cyhoeddus mewn nifer o ffyrdd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, yn enwedig gyda chynghorau tref a chymuned (mae nifer ohonynt eisoes yn rhedeg nifer o doiledau ar draws y sir) a chyda busnesau adwerthu (nifer ohonynt sydd eisoes yn cynnig toiledau i gwsmeriaid).

Mae rhai o'r camau gweithredu yn cynnwys:

  • Bellach, mae toiledau ar gael i'w defnyddio mewn ardaloedd hygyrch yn Adeiladau Cyngor Sir Powys
  • chwilio i weithio gyda chaffis cyhoeddus a busnesau o'r math adwerthu i hyrwyddo'r ymgyrch "Defnyddio ein Toiledau"
  • Gwybodaeth ynglŷn â chanllawiau am ddarpariaeth o doiledau sydd ar gael mewn digwyddiadau dros dro
  • buddsoddi mewn ffyrdd i ddefnyddio cytundebau Adran 106 er mwyn darparu cyfleusterau toiledau petai cwmni i adeiladu cyfleuster cymunedol/o fath adwerthu mewn tref ym Mhowys
  • hybu cyfleusterau lleoedd newid a babanod (https://www.changing-places.org/find)
  • cyhoeddi gwybodaeth am leoliadau cyfleusterau, oriau agor, y math o ddarpariaeth ac ati.

Edrych ar ein strategaeth (PDF) [2MB]

Mae Cyngor Sir Powys wedi ymgymryd ag adolygiad o'r Strategaeth Doiled Leol a gafodd ei chyhoeddi yn 2019. Gallwch weld yr adolygiad fan hyn:  Strategaeth Toiledau Lleol Datganiad Cynnydd Interim 2023 (PDF) [188KB]

Er y cafwyd cynnydd i nifer o feysydd allweddol, mae'r adolygiad hwn wedi dynodi'r angen am ddatblygiad pellach, ac felly bydd strategaeth 2019 bellach yn cael ei hadolygu a'i datblygu ymhellach. Caiff strategaeth newydd ei datblygu erbyn diwedd 2023, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod cyfleusterau toiled addas yn bodoli ledled y sir. 

Dod o hyd i doiledau cyhoeddus. Noder: Mae'r daenlen sy'n cyflwyno gwybodaeth am doiledau ym Mhowys wedi'i chasglu fel rhan o ymarferiad ymgynghori ac roedd yn gywir ar adeg argraffu. Fe fydd yn cael ei diweddaru fel rhan o'r broses adolygu.

Gwefan Lle Llywodraeth Cymru https://gov.wales/toilets

Cymdeithas Toiledau Prydain http://www.btaloos.co.uk/

Changing Places https://www.changing-places.org/find

Cylch Gorchwyl Llywodraeth Cymru:

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ap symudol (cymhwysiad) a fydd yn mapio'r holl ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yng Nghymru. Edrychwch yma am ragor o wybodaeth.

Gostyngiad treth annomestig. O'r 1 Ebrill 2020, bydd toiledau cyhoeddus unigol yn gweld gostyngiad yn eu biliau trethi i sero. Edrychwch ar: https://gov.wales/written-statement-non-domestic-rates-relief-public-lavatories