CYMORTH
Un rhif ffôn i oedolion am wybodaeth a chymorth.
0345 602 7050
Rydym yn croesawu galwadau Cymraeg.
Cysylltwch â CYMORTH ar-lein Cysylltwch â CYMORTH ar-lein
Ar gyfer gwasanaethau i oedolion:
Os ydych chi'n gwneud ymholiad am gymorth i oedolyn, byddwch yn gallu gweld amrywiaeth o wasanaethau i oedolion, pobl hyn, pobl ag amhariad ar y synhwyrau a gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu/corfforol, er enghraifft:
- Diogeli
- Rhyddhau o'r Ysbyty
- Cyfarpar
- Cymorth yn y cartref
- Cyngor a chymorth ar gyfer gofal preswyl a gofal nyrsio
- Ailalluogi
- Cyngor a chyfeirio
Neu dilynwch y cysylltiadau yn y rhestrau uchod a gallech ddod o hyd i'r wybodaeth rydych chi ei hangen ar-lein.
Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn ffonio CYMORTH?
Bydd swyddog cyswllt profiadol yn ateb eich galwad ac yn holi â phwy yr hoffech chi siarad, neu beth yw natur eich galwad er mwyn i chi gael y math iawn o gymorth rydych yn ei geisio yn ddi-oed.
Byddwch yn gallu cyrraedd amrywiaeth o wasanaethau i oedolion, pobl hyn, rhai ag amhariad ar y synhwyrau a gwasanaethau anawsterau / anableddau dysgu yn ogystal â sawl un arall
Gan sicrhau bod gennych yr hawl i fynd i'r gwasanaeth iawn ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, pan rydych chi yn y lle iawn.