Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Datrys Anghydfod

Cwynion am ysgol unigol

Mae modd datrys y rhan fwyaf o broblemau trwy siarad â'r unigolyn perthnasol yn yr ysgol, heb fod angen defnyddio gweithdrefn ffurfiol. Fodd bynnag, os nad ydych yn hapus â'r ymateb a gewch, yna gallwch gyflwyno cwyn trwy ddefnyddio'r gweithdrefnau y manylwyd arnynt yn y weithdrefn cwyno ysgolion. 

Os ydych am wneud cwyno ffurfiol am ysgol unigol, gofynnwch i'r ysgol am gopi o'i gweithdrefn gwyno. 

Ni all yr awdurdod lleol ymateb i gwynion am ysgol benodol gan mai corff llywodraethu'r ysgol sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â'r cwynion hyn.

Cwynion i'r awdurdod lleol

Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i drin yn effeithlon unrhyw bryderon neu gwynion a allai fod gennych am ein gwasanaethau.  Ein nod yw egluro unrhyw faterion os nad ydych yn siwr amdanyn nhw. Byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau a wnaethom os gallwn. 

Gallwch ddarllen copi o Bolisi Cwynion Corfforaethol Cyngor Sir Powys trwy ddefnyddio'r ddolen yma Polisi Cwynion neu gallwch ofyn am gopi trwy ffonio 01597 826000 neu anfon e-bost at complaints@powys.gov.uk

SNAP Cymru

Mae Partneriaeth Rhieni annibynnol SNAP Cymru'n rhad ac am ddim i deuluoedd ac yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ddiduedd a chywir.

SENTW

Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) yn dribiwnlys annibynnol. Rydym yn delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau penodol sy'n cael eu gwneud am blentyn neu berson ifanc a'i addysg. Rydym hefyd yn delio â hawliadau am driniaeth annheg yn yr ysgol sy'n ymwneud ag anabledd.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Sut i fynegi pryder gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Yn y lle cyntaf, siaradwch â'ch ymarferydd iechyd. 

Os ydych chi'n dal i fod yn anfodlon, gallwch drafod hyn gyda thîm Pryderon Bwrdd Iechyd Addysgu Powys dros e-bost:  Concerns.qualityandsafety.POW@wales.nhs.uk

I wneud cwyn ffurfiol, gweler y wybodaeth isod:

Wefan Rhoi Pethau'n Gywir

 

TGP Cymru

Mae TGP Cymru yn elusen plant annibynnol flaenllaw yng Nghymru sy'n gweithio gyda rhai o'r plant, pobl ifanc a theuluoedd mwyaf agored i niwed ac sydd fwyaf ar y cyrion yng Nghymru. Efallai eu bod yn profi anawsterau wrth geisio manteisio ar wasanaethau priodol ym meysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol - mae'r rhain yn cynnwys plant gydag anableddau, plant gydag anghenion iechyd emosiynol a phlant sy'n ceisio lloches.

Mae Prif Swyddfa TGP Cymru yng Nghaerdydd ac mae ganddo brosiectau ledled Cymru yn cynnig cefnogaeth annibynnol a chyfrinachol i blant, pobl ifanc a theuluoedd drwy eiriolaeth, cyfranogiad, cwnsela, cyfarfodydd grŵp teulu, dulliau adferol a datrys gwrthdaro. Rydym hefyd yn cynnig cymorth eiriolaeth ar gyfer y rhai hynny sy'n profi problemau gydag iechyd a lles emosiynol a chynhyrchu pasportau cyfathrebu ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion cyfathrebu. Rydym yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, gan roi llais iddynt ddweud eu dweud ar eu dyfodol a sicrhau fod eu hawliau'n cael eu parchu.