Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwydded Cerbyd Masnachol neu Drelar (CVT): Newid cyfeiriad neu gerbyd

Newid cyfeiriad

Os ydych wedi symud tŷ ym Mhowys, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl trwy gysylltu â'r tîm Contractau Gwastraff ar waste.contracts@powys.gov.uk, a darparu tystiolaeth newydd o gyfeiriad eich eiddo newydd.

Ni fydd newid i'r drwydded ei hun yn y cyfamser, felly bydd mod i chi barhau i'w defnyddio hyd yn oed cyn i chi ddweud wrthym eich bod wedi symud. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi ddweud wrthym cyn gynted â phosibl gan nad fod y trwyddedau wedi'u cysylltu â'r cerbydau a'r eiddo. Fel y cyfryw, gallai peidio â rhoi gwybod i ni olygu bod yn rhaid i ni ddiddymu eich trwydded os yw meddianwyr eich hen dy hefyd yn ymgeisio am drwydded.

Os ydych yn dymuno postio copïau o'r dogfennau perthnasol, dylech eu hanfon i'r cyfeiriad canlynol: Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG.

 

Newid cerbyd

Os ydych wedi gwerthu neu wedi newid eich cerbyd, rhowch wybod i ni, gan na fyddwch yn cael dadlwytho eich gwastraff ar y safle oni bai fod cofrestriad eich cerbyd yn cyfateb i'r hyn rydym ni wedi'i argraffu ar eich trwydded.

Cysylltwch â'r tîm Contractau Gwastraff trwy anfon e-bost at waste.contracts@powys.gov.uk. Bydd angen i chi ddarparu copi o adran manylion y ceidwad cofrestredig a'ch cerbyd o V5 eich cerbyd newydd. Dylech allu gweld y rhain ar y dudalen flaen a'r ail dudalen ar ddogfennau V5 a gyflwynwyd o fis Ebrill 2019 ymlaen, neu ar Adrannau 4 a 5 ar yr ail dudalen i'r dogfennau V5 a gyflwynwyd cyn hynny. Yn achos cerbydau cwmni neu waith, bydd angen i ni weld y V5 newydd os yw ar gael, neu drefniant prydles newydd sy'n dangos manylion y cerbyd os nad yw ar gael, ynghyd â llythyr caniatâd newydd oddi wrth eich cyflogwr i ddangos bod gennych awdurdod i ddefnyddio'r cerbyd newydd i gludo eich gwastraff domestig.

Os ydych yn dymuno postio copïau o'r dogfennau perthnasol, dylech eu hanfon i'r cyfeiriad canlynol: Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG.