Delio ag Argyfyngau - Materion Iechyd
![Image of a blood pressure monitor and some tablets](/image/9991/Image-of-a-blood-pressure-monitor-and-some-tablets/standard.png?m=1571825360853)
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n gyfrifol am anghenion iechyd a lles pobl Powys.
Fel bwrdd iechyd gwledig, mae'r Bwrdd hwn yn darparu gymaint o wasanaethau lleol â phosibl, trwy Feddygon Teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol. Trwy weithio'n agos â Byrddau Iechyd eraill, Ymddiriedolaeth GIG a sefydliadau eraill yng Nghymru a Lloegr, mae'r bwrdd iechyd yn comisiynu nifer o wasanaethau ar ran ei drigolion.
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw un o 11 o sefydliadau sy'n rhan o GIG Cymru. Dyma'r asiantaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n gweithio i ddiogelu a gwella iechyd a lles pobl Cymru.