Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Delio ag Argyfyngau - Atal terfysgaeth

Image of a police jacket

CONTEST yw strategaeth gwrthderfysgaeth y DU. Ei nod yw lleihau'r risg o derfysgaeth i'r DU, ei dinasyddion a'i buddiannau tramor, er mwyn i bobl fyw eu bywydau gyda rhyddid a hyder.

Mae pedwar piler CONTEST fel a ganlyn:

  • atal: atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu'n cefnogi terfysgaeth.
  • dilyn: atal ymosodiadau gan derfysgwyr rhag digwydd.
  • diogelu: atgyfnerthu ein diogelwch yn erbyn ymosodiad gan derfysgwyr.
  • paratoi: lleihau cymaint â phosibl effaith ymosodiad gan derfysgwyr.

Atal

Mae atal yn golygu atal radicaliaeth ac eithafiaeth.  Os ydych chi'n poeni am rywun sy'n mynegi barn eithafol neu gasineb, a all arwain at yr unigolyn yn niweidio ei hunan neu eraill, dylid clicio ar y dolenni isod i weld ble mae cymorth ar gael.

Action Counters Terrorismhttps://actearly.uk/

NSPCC https://www.nspcc.org.uk/keeping-children-safe/reporting-abuse/dedicated-helplines/protecting-children-from-radicalisation/

Y Swyddfa Gartrefhttps://www.gov.uk/guidance/get-help-if-youre-worried-about-someone-being-radicalised

Cyngor Sir Powys

  • Gwasanaethau ar gyfer Oedolion: CYMORTH neu ffoniwch ni ar 0345 6027050
  • Gwasanaethau ar gyfer Plant a Theuluoedd: Drws Ffrynt Powys neu ffoniwch ni ar 01597 827666

Diogelu a Pharatoi

Mae ProtectUK yn darparu cymorth ym maes gwrth-derfysgaeth i fusnesau a'r cyhoedd yn ogystal â chyfarwyddyd er mwyn diogelu a pharatoi'n effeithiol

https://www.protectuk.police.uk/