Toglo gwelededd dewislen symudol

Teithio Llesol

 
Active Travel
Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw gwneud Cymru yn genedl o gerddwyr a seiclwyr. Ei diben yw galluogi mwy o bobl i deithio'n llesol ar gyfer teithiau byr yn hytrach na defnyddio cerbydau modur, lle mae'n addas iddynt wneud hynny.

Gorolwg o'r Ddeddf

Mae'r Ddeddf yn gofyn i awdurdodau lleol yng Nghymru i lunio mapiau teithio llesol a chyflwyno gwelliannau flwyddyn ar flwyddyn ar lwybrau a chyfleusterau teithio llesol.

Mae'n gofyn i awdurdodau priffyrdd yng Nghymru i wneud gwelliannau i lwybrau a chyfleusterau ar gyfer cerddwyr a seiclwyr gan ystyried anghenion cerddwyr a seiclwyr mewn ystod o swyddogaethau eraill yr awdurdod priffyrdd.

Mae'n gofyn hefyd i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i hyrwyddo teithiau llesol wrth ymarfer eu swyddogaethau dan y Ddeddf hon.

Cynlluniau a Datblygiadau Teithio Llesol Parhaus

Mae Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Map Rhwydwaith Teithio Llesol Cyngor Sir Powys ar agor.

Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol  Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) yn dangos yr holl lwybrau teithio llesol sydd eisoes yn bodoli yn y sir, ynghyd â llwybrau posibl ar gyfer y dyfodol a nodwyd gan randdeiliaid a phreswylwyr yn ystod cyfnodau datblygu mapiau blaenorol (2016-2017 a 2020-2022).

Mae'r MRhTLl yn arwyddocaol gan ei fod nid yn unig yn nodi  llwybrau teithio llesol ond hefyd yn cefnogi'r broses o gynllunio datblygiadau'r dyfodol o ran cynlluniau a rhwydweithiau teithio llesol. Yn ystod y diweddariad diwethaf y MRhTLl,  cafodd dros 500 o lwybrau posibl ar gyfer y dyfodol eu nodi gan randdeiliaid a phreswylwyr ar draws yr 11 ardal ddynodedig (fel y'u diffiniwyd gan y Gweinidog). Mae'r diweddariad diweddaraf hwn yn gyfle i chi awgrymu newidiadau i'r llwybrau a nodwyd yn flaenorol ar gyfer y dyfodol, yn ogystal ag unrhyw lwybrau neu welliannau newydd.

Sylwch, nod y fenter hon yw amlinellu llwybrau a gwelliannau posibl o fewn yr ardaloedd dynodedig yn unig (sef aneddiadau a bennir gan y Gweinidog) ac nid yw'n sicrhau cyllid ar gyfer y llwybrau hynny. 

I gymryd rhan, ewch i'r arolwg hwn https://datamap.gov.wales/arolwg/Powys-AT-arolwg/ a dilynwch y cyfarwyddiadau. Fel arall, gallwch anfon e-bost at active@powys.gov.uk, gan sicrhau eich bod yn cynnwys cyfeirnod y llwybr a'r dref berthnasol.

 

Rhoi gwybod am broblemau gyda llwybrau beicio a cherdded sydd ohoni yma Rhoi gwybod am faterion gyda llwybrau beicio a cherdded sydd ohoni

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu