Teithio Llesol
Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw gwneud Cymru yn genedl o gerddwyr a seiclwyr. Ei diben yw galluogi mwy o bobl i deithio'n llesol ar gyfer teithiau byr yn hytrach na defnyddio cerbydau modur, lle mae'n addas iddynt wneud hynny.
Gorolwg o'r Ddeddf
Mae'r Ddeddf yn gofyn i awdurdodau lleol yng Nghymru i lunio mapiau teithio llesol a chyflwyno gwelliannau flwyddyn ar flwyddyn ar lwybrau a chyfleusterau teithio llesol.
Mae'n gofyn i awdurdodau priffyrdd yng Nghymru i wneud gwelliannau i lwybrau a chyfleusterau ar gyfer cerddwyr a seiclwyr gan ystyried anghenion cerddwyr a seiclwyr mewn ystod o swyddogaethau eraill yr awdurdod priffyrdd.
Mae'n gofyn hefyd i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i hyrwyddo teithiau llesol wrth ymarfer eu swyddogaethau dan y Ddeddf hon.
Map Llwybrau Presennol (ERM) - yn dynodi'r llwybrau presennol sy'n addas ar gyfer cerdded a beicio