Cymorth i Deuluoedd

Gall gweithwyr cefnogi ac ymarferwyr cefnogi teuluoedd y Tîm Cymorth Cynnar helpu gydag amrywiaeth o bryderon ac anghenion cefnogi ar gyfer rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc.
Mae'r rhain yn gallu cynnwys:
- cefnogaeth gydag arferion da o ran cwsg
- creu cwlwm o ymddiriedaeth ac ymlyniad
- deall a rheoli emosiynau
- strategaethau ymddygiad positif
- Datblygu cynlluniau cefnogi sy'n canolbwyntio ar anghenion y teulu, gan atgyfeirio a gweithio gyda gwasanaethau eraill fel a phryd sydd ei angen
- Cefnogi rhieni/gofalwyr i ddeall y rhesymau sydd y tu cefn i ymddygiadau eu plentyn
- Sicrhau ein bod yn cadw'r plentyn neu unigolyn ifanc yn ganolbwynt i unrhyw waith a wnawn, gan gynnwys gwrando ar eu llais a'i hyrwyddo, tra'n cynyddu dealltwriaeth y plentyn o'r hyn sy'n digwydd iddynt