Tim Cymorth Cynnar
Rydym yn ymgysylltu â phlant, pobl ifanc (0-25 oed) a'u teuluoedd cyn gynted ag y gallwn i'w helpu i newid pethau er mwyn cyrraedd nodau'r teulu ac atal yr angen am ymyriad gwaith cymdeithasol statudol.
Rydym yn cydweithio'n agos â'n cydweithwyr ym meysydd iechyd, addysg, tai ac asiantaethau eraill sy'n bartneriaid, gan gynnwys y trydydd sector, i helpu teuluoedd i gysylltu â'u teuluoedd.
Mae Strategaeth Cymorth Cynnar Powys (PDF, 1 MB) yn nodi sut y gall gwasanaethau, asiantaethau partner a chymunedau weithio gyda phlant a theuluoedd, gan edrych ar faterion wrth iddynt ddigwydd i sicrhau eu bod yn cael 'y cymorth cywir ar yr adeg gywir'.
Gwyliwch yr animeiddiad hwn i gael gwybod mwy am y tîm cymorth cynnar a'r cymorth y gallant ei gynnig i deuluoedd: