Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Siarter Cwsmeriaid

Nod Cyngor Sir Powys yw darparu'r gwasanaethau o'r safon uchaf, a hynny mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.  Pan fyddwch yn cysylltu â ni, rydym am sicrhau eich bod yn derbyn y lefel uchaf o wasanaeth.  Mae'r Siarter Cwsmeriaid yn nodi pa safon o wasanaeth y gallwch ei ddisgwyl.  Os nad ydych chi'n credu ein bod yn gwneud cystal â'r disgwyl, rhowch wybod i ni.

 

Byddwn:

  • yn eich trin ag urddas a pharch
  • yn agored ac onest
  • yn gwrtais ac yn broffesiynol bob tro
  • yn trin pob cwsmer yn deg ac yn gyfartal
  • yn ymateb i ymholiadau'n brydlon
  • yn darparu swyddogion dwyieithog
  • yn sicrhau fod ein gwasanaethau'n hwylus ac yn hawdd i'w defnyddio
  • yn cyfathrebu'n glir a heb jargon
  • yn barod i helpu ac yn ymateb i'ch anghenion chi

 

Yn lle hynny, gofynnwn i chi

  • drin ein staff â pharch
  • fod yn ystyrlon ac yn gwrtais
  • gyflwyno'r wybodaeth sydd ei angen i drefnu gwasanaethau
  • rhoi gwybod os aiff rhywbeth o'i le, er mwyn i ni wneud pethau'n iawn

 

Cysylltu â ni:

Pan fyddwch yn cysylltu â ni byddwn yn ceisio delio â'ch cwestiwn ar unwaith, os nad yw hynny'n bosibl, byddwn yn ceisio ymateb i'ch ymholiad o fewn 10 diwrnod gwaith; os yw eich cwestiwn yn fwy cymhleth byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr hyn sy'n digwydd o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn ymateb yn llawn i chi o fewn 20 diwrnod gwaith.

Os ydych yn gwneud cwyn rydym yn dilyn Polisi Cwynion Corfforaethol y Cyngor (PDF) [258KB].

 

Cysylltu â ni dros:

y ffôn: Fe wnawn ateb eich galwad o fewn 2 funud. Os na fyddwn ni'n gallu eich helpu chi, fe fyddwn yn siŵr o ddweud pwy fydd yn gallu.

E-bost: Fe wnawn gydnabod eich e-bost ac anfon ateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Post: Fe wnawn ateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

 

Os yw eich cwestiwn yn fwy cymhleth byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr hyn sy'n digwydd o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn ymateb yn llawn i chi o fewn 20 diwrnod gwaith.

Cyswllt

  • Ebost: customerservices@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826000
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Cwsmer, Neuadd Y Sir, Spa Road East, Llandrindod Wells, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau