Mae Powys yn sir unigryw gyda chymunedau gwasgaredig sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de (Y Trallwng i Ystradgynlais) a'r dwyrain i'r gorllewin (Tref-y-clawdd i Fachynlleth).
Beth ry'n ni wedi'i wneud
Rydym wedi gweithio gyda Chyngor Tref Llandrindod i'w helpu i sefydlu rhwydwaith WiFi am ddim i drigolion ac ymwelwyr i'r dref gyfan.
Bydd teithwyr sy'n defnyddio bysus y T4 a'r T6 ym Mhowys yn gallu defnyddio system amser go iawn sy'n helpu tracio ymhle a pha mor bell i ffwrdd mae'r bws ar amser penodol.
Rydym hefyd wedi helpu cymuned Crai oedd â band eang gwael iawn i sicrhau nawdd o gynllun 'Allwedd Bang Eang Cymru' Llywodraeth Cymru i gael eu mast eu hunain er mwyn cael band eang cyflym iawn.
Beth ydyn ni'n mynd i'w wneud?
Sicrhau fod seilwaith ein trefi'n glyfar, gyda galluedd digidol
Helpu'r sawl sydd heb fand eang i gysylltu
Cefnogi cymunedau i feithrin sgiliau digidol
Cydweithio gyda busnesau er mwyn datblygu'r sector a phrentisiaethau gofal digidol