Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaeth Ddigidol Powys: Rhagoriaeth Gwybodaeth

Laptop New Product

 

Rydym am ddefnyddio offer a thechnolegau digidol i'n helpu ni dynnu data at ei gilydd o sawl ffynhonnell a'n helpu ni ei ddadansoddi'n gyflym ac yn gywir er mwyn gwneud penderfyniadau da.

Bydd offer digidol sy'n creu'r 'darlun mwyaf' yn sicrhau ein bod yn pennu adnoddau i le mae eu hangen fwyaf.

 

Beth ry'n ni wedi'i wneud
Image of 6 people sitting down holding up speech bubble templates

Rydym eisoes wedi llunio asesiad manwl o lesiant yn y sir ac wedi creu banc data o wybodaeth ar lesiant y gallwch ei ddefnyddio i gyrchu llwyth o ffeithiau a ffigurau ar y sir.  Beth am gael golwg yma ......

 

Beth ydyn ni'n mynd i'w wneud?
Gwybodaeth Ragorol

  • Creu dangosfyrddau perfformiad i fonitro perfformiad
  • Gwella cywirdeb ein data, gan sicrhau data uchel ei ansawdd
  • Ymwreiddio dadansoddeg rhagfynegol yn ein systemau adrodd
  • Darparu data sy'n cefnogi'r gwella'r broses o wneud penderfyniadau
  • Defnyddio gwybodaeth i sicrhau fod adnoddau yn y lleoliadau gyda'r angen mwyaf
  • Integreiddio data gyda'n partneriaid