Hysbysiad Casgliadau
Efallai y bydd rhywfaint o darfu ar gasgliadau ailgylchu cartrefi a gwastraff gweddilliol (bin du, sachau porffor) dros wythnos Gŵyl y Banc. Defnyddiwch y ffurflen isod i wirio'r diweddariadau diweddaraf ar gyfer eich cyfeiriad.
Gweler unrhyw negeseuon eraill isod am newidiadau presennol i gasgliadau gwastraff gardd.
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra, ond efallai na fydd casgliadau gwastraff gardd yn ardaloedd Gogledd Powys a drefnwyd ar gyfer dydd Llun 18 Awst neu ddydd Mawrth 19 Awst yn cael eu cwblhau yn ôl yr amserlen. Bydd yr holl gasgliadau'n cael eu cyflawni erbyn diwedd dydd Sul 24ain, felly cadwch eich bin(iau) allan nes y cesglir.
CEINWS, CEMMAES, GLANTWYMYN, COMMINS COCH, CWMLLINAU, DERWEN-LAS, PORTH FFRIDD, GLAS PWLL, LLANBRYNMAIR, LLANWRIN, PANTPERTHOG, TALERDDIG, CHIRBURY, YR YSTOG, YR YSTOG, ISATYN, MINSTERLEY, HEN YSTOG, PENTRE, SARN, SNEAD, DOLANOG, HIRNANT, LLANFAIR CAEREINION, LLANFIHANGEL, LLANGADFAN, LLANGYNOG, LLANWDDYN, PEN-Y-BONT-FAWR, PONT ROBERT, ALBERBURY, COEDWAY, CREW GREEN, CRUGION, TREBERFEDD
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra, ond ni chwblhawyd casgliadau gwastraff gardd yn ardaloedd Gogledd Powys a nodir isod ar gyfer dydd Iau 21 Awst fel y trefnwyd. Bydd yr holl gasgliadau yr effeithir arnynt bellach yn digwydd ddydd Sadwrn 23 Awst. Cyflwynwch eich cynwysyddion fel arfer ar y diwrnod hwn.
ARDDLIN, CARREGHOFA, FOUR CROSSES, LLANDYSILIO, LLANSANTFFRAID-YM-MECHAIN, LLANYMYNECH, PONTNEWYDD-AR-WY
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra, ond ni chwblhawyd casgliadau gwastraff gardd yn ardaloedd Canolbarth Powys a nodir isod ar gyfer dydd Gwener 22 Awst fel y trefnwyd. Bydd yr holl gasgliadau yr effeithir arnynt bellach yn digwydd ar ddydd Gwener 29 Awst. Cyflwynwch eich cynwysyddion fel arfer ar y diwrnod hwn.
BUILTH ROAD, LLANFAIR-YM-MUALLT, LLANELWEDD, LLANFIHANGEL BRYN PABUAN
Peidiwch â chysylltu am gasgliad a gollwyd cyn y dyddiad casglu wedi'i aildrefnu. Bydd adroddiadau a wneir cyn y dyddiad hwn yn cael eu canslo.