Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Gwasanaethau Plant: Hysbysiad Preifatrwydd

Bydd cofnod yn cael ei gadw am unrhyw un sy'n derbyn gwybodaeth, cyngor neu gymorth gan Wasanaethau Plant Cyngor Sir Powys. Mae Gwasanaethau Plant yn casglu gwybodaeth bersonol i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau cymorth cynnar, ataliaeth a gofal cymdeithasol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Pwy ydym ni a sut y cysylltir â ni?

Cyfeiriad: Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys. LD1 5LG

Ebost: csfrontdoor@powys.gov.uk

Ffôn: 01597 827666

Swyddog Diogelu Data (SDD):

Gellir cysylltu â'r SDD Cyngor Sir Powys ac Ysgolion Powys drwy e-bost yn information.compliance@powys.gov.uk.

Pa wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei phrosesu amdanoch chi?

Fel rhan o'r gwaith y mae Gwasanaethau Plant yn ei wneud, byddwn yn prosesu'r wybodaeth ganlynol amdanoch chi:

  • gwybodaeth bersonol (fel enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, dyddiad geni, rhyw, iaith)
  • nodweddion categori arbennig (fel ethnigrwydd, anabledd, crefydd a gwybodaeth feddygol)
  • rhwydwaith teuluol a gwybodaeth am berthynas
  • gwybodaeth am gyflogaeth
  • gwybodaeth ariannol
  • gwybodaeth yn ymwneud ag asesiadau a chynlluniau

Rydym hefyd yn cael gwybodaeth bersonol o'r ffynonellau eraill canlynol:

  • yr awdurdod lleol ble'r ydych yn byw ac awdurdodau lleol blaenorol eraill lle y gallech fod wedi byw
  • adrannau eraill Cyngor Powys
  • Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • cyflogwr yn y gorffennol a'r presennol
  • cyfryngau cymdeithasol
  • tystlythyrau (personol a chyflogaeth)
  • partneriaid blaenorol
  • Iechyd
  • addysg
  • Cymdeithas Teuluoedd Milwyr, Morwyr ac Awyrennwyr

Y dibenion y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar eu cyfer:

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu i:

  • I'n helpu ni i sicrhau ein bod ni'n darparu'r cymorth mwyaf priodol i chi;
  • Ein helpu ni yn ein gwaith i ganfod ac atal cam-drin plant a phobl ifanc;
  • Gwneud ceisiadau am wasanaethau, cymorth neu fudd-daliadau ar eich rhan; ac
  • I'n helpu i gynllunio, trefnu a gwella'r gwasanaethau hynny, adrodd ar y gwaith rydym wedi'i wneud a dangos ein bod wedi defnyddio arian cyhoeddus yn iawn.
  • Darparu cymorth cywir ac effeithlon i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd a all gynnwys cyfeirio at wasanaethau ychwanegol e.e. Iechyd, Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc a Phartneriaid eraill yn y Trydydd Sector.

Gyda phwy y gallem rannu eich gwybodaeth bersonol?

Bydd rhannu eich gwybodaeth yn cael ei wneud yn unol â'n tasgau ac yn unol â deddfwriaeth.

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth gyda sefydliad os oes ei hangen arnynt i wneud eu gwaith, neu os yw'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny, er enghraifft:

  • Y rhai sy'n darparu gwasanaethau cymorth a gofal;
  • Os byddwn yn mynd â phlentyn i ofal;
  • Os yw'r llys yn gorchymyn ein bod yn darparu'r wybodaeth;
  • Cyrff rheoleiddio sy'n arolygu neu'n monitro ein gwaith;
  • Sefydliadau fel yr Heddlu, gwasanaethau iechyd, addysg a phartneriaid yn y Trydydd Sector sy'n gweithio ar y cyd â ni i ddarparu gwasanaethau ac amddiffyn unigolion

O dan Adran 83 Deddf Plant 1989, mae'n ofynnol i ni ddarparu is-set o'r wybodaeth sydd gennym am blant sydd angen gwasanaethau gofal a chymorth, gan gynnwys y rhai sy'n derbyn gofal, i gasgliad data Llywodraeth Cymru (LlC), Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg.

Bydd y data y mae'n rhaid i ni ei anfon yn amrywio bob blwyddyn ond bydd yn cynnwys gwybodaeth bersonol (gydag enwau wedi'u tynnu) a manylion y gwasanaethau a ddarperir. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth hon i helpu i gynllunio gwasanaethau i bobl yng Nghymru, i fesur pa mor dda y mae gwasanaethau'n cael eu darparu fel y gellir eu gwella ac i helpu i gynnal ymchwil i lesiant pobl a gallai hyn gynnwys ei chyfuno â gwybodaeth arall e.e. data iechyd neu addysg. 

Y Sail Gyfreithiol (Beth sy'n caniatáu i ni brosesu eich data personol):

Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni nodi pa sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni er mwyn prosesu eich data personol.

I brosesu eich data personol at ddibenion darparu gofal a chymorth, rydym yn dibynnu'n bennaf ar:

  • Erthygl 6 (c) Rhwymedigaeth gyfreithiol, ac Erthygl 6 (e) [GDPR y DU] ein rhwymedigaeth i gyflawni tasg gyhoeddus.  Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol yn bennaf o dan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Fodd bynnag, efallai y bydd adegau o'r fath lle rydym yn dibynnu ar:

  • Erthygl 6 (a) [GDPR y DU] Eich caniatâd (mewn rhai amgylchiadau). Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, os ydych yn dymuno cael cymorth gan Wasanaethau Plant drwy Ofal a Chymorth neu lefelau Cymorth Cynnar.

Ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol categori arbennig (h.y. , gwybodaeth sy'n cael ei hystyried yn ddata personol sensitif fel gwybodaeth Iechyd), rydym yn dibynnu ar resymau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol (cyfle neu driniaeth gyfartal), ar gyfer darparu gofal cymdeithasol, ar gyfer cyfraith nawdd cymdeithasol neu ddiogelu cymdeithasol, ac ar gyfer sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol pryd bynnag y bydd Llysoedd yn gweithredu yn rhinwedd eu hawl barnwrol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol?

Byddwn yn cadw gwybodaeth amdanoch chi am o leiaf 1 mlynedd o'r cyswllt diwethaf a hyd at 100 mlynedd yn dibynnu ar y rheswm dros ein hymwneud. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau lle gellir ymestyn unrhyw gyfnod cadw. Ar ddiwedd y cyfnod cadw, bydd y wybodaeth yn cael ei dileu.

Rhagor o Wybodaeth:

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data personol, yr hawliau y mae gennych hawl i'w harfer megis yr hawl mynediad, a manylion cyswllt y comisiynydd, ewch i'n hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yma: Diogelu Data a Phreifatrwydd

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu