Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhandiroedd Powys

Yn wreiddiol, sefydlwyd rhandiroedd ar gyfer gweithwyr ffermydd tlawd i'w galluogi i dyfu ddigon o fwyd i gefnogi eu teuluoedd.  Roedd nifer o ohonynt ar draws y wlad erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac roeddynt yn werthfawr iawn mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Heddiw, mae'r galw am blot i 'dyfu eich bwyd eich hunan' yn uchel, ac mae'r rhandiroedd hefyd yn fannau pwysig ar gyfer ymlacio, cymdeithasu ac ymarfer corff.  Maen nhw hefyd yn bwysig i'n bywyd gwyllt, gan ddarparu cynefinoedd gwerthfawr mewn ardaloedd trefol a thiroedd sy'n cael eu ffermio'n ddwys.  Bydd y darnau yma o dir yn annog adar, gwenyn, pryf hofran, ymlusgiaid, ystlumod, draenogod, chwistlod a chwilod yn dda i'r rhandir, a byddant yn bwyta pla'r ardd megis, malwod du, llyslau a lindys.  Bydd gwenyn a pry hofran aeddfed yn peillio eich cnydau.  Mae hyd yn oed pry cop, lyndys a chacwn yn dod â budd!

Sut i wneud cais am Randir

Os na welwch y Rhandir rydych wedi'i ddewis, cysylltwch â'ch cyngor tref/cymuned neu'ch Cymdeithas rhandiroedd lleol. Os na allant eich helpu, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio'r manylion ar 01874 612 288 neu 01597 82 7652.