Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhoi gwybod am dwyll

 

Cynllun yw sgiâm i'ch twyllo chi allan o'ch arian.  Peth gofidus iawn yw cael eich dal allan gan sgiâm, ond mae'n bwysig rhoi gwybod amdano er mwyn ceisio ei atal rhag digwydd eto.
Bilingual CAB logo

Gwasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth sy'n trin adroddiadau ar sgiâm ar ran Safonau Masnach.

Fe allai fod yn sgiâm os:

  • nad ydych yn disgwyl galwad, llythyr, e-bost neu neges destun
  • nad ydych erioed wedi clywed am y loteri neu'r gystadleuaeth a heb brynu tocyn.
  • bydd rhywun yn gofyn i chi anfon arian cyn cael eich gwobr.
  • bydd rhywun yn dweud wrthych i ymateb yn gyflym fel na chewch amser i feddwl amdano cyn penderfynu ar y camau nesaf.
  • bydd rhywun yn dweud wrthych i'w gadw'n gyfrinach.
  • yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir
  • bydd rhywun yn gofyn i chi dalu i ymestyn tanysgrifiad neu wasanaeth nad oeddech yn gwybod amdano.

Am gymorth ar sut i adnabod sgiâm a rhoi gwybod amdano, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth..