Toglo gwelededd dewislen symudol

Drws Ffrynt Powys

Un rhif ffôn i blant a theuluoedd am wybodaeth a chymorth.

Gallai hyn fod ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau i blant a theuluoedd yn lleol, neu i gael cyngor a chanllawiau ar sut i gael cymorth ychwanegol, neu i godi mater neu bryder ynghylch lles plentyn neu unigolyn ifanc.

01597 827 666

Ar gyfer gwasanaethau i blant a phobl ifanc, er enghraifft:

Sign Language icon

Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn ffonio Drws Ffrynt Powys?

Bydd swyddog cyswllt profiadol yn ateb eich galwad ac yn holi â phwy yr hoffech chi siarad, neu beth yw natur eich galwad er mwyn i chi gael y math iawn o gymorth rydych yn ei geisio yn ddi-oed.

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â phlant, pobl ifanc neu deuluoedd, gallwch siarad â rhywun sy'n arbenigo mewn trin galwadau am wasanaethau fel y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS), y gwasanaethau anabledd a Thîm o Amgylch y Teulu (TAF) a fydd yn gallu rhoi cyngor a chymorth i'ch plentyn neu'ch teulu.

Gan sicrhau bod gennych yr hawl i fynd i'r gwasanaeth iawn ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, pan rydych chi yn y lle iawn.